Gall trefn/cynnwys y cwrs newid yn ôl gofynion y grŵp, fodd bynnag gobeithio y bydd y manylion dilynol yn rhoi syniad i chi o gynnwys y cwrs:-
1 Cyfarchion, ffarwelio, yr wyddor ac ynganu’r llythrennau, rhifau (1-10) dyddiau’r wythnos
2 Cyflwyniadau: Beth yw eich enw? Rhifau 11-20. Lliwiau.
3 Cyflwyniadau – Sut ydych chi? Y corff.
4 O ble ydych chi’n dod? Teulu. Rhifau 21-100+.
5 Misoedd, dyddiadau, pryd mae eich pen-blwydd? Tymhorau, tywydd
6 Faint o’r gloch yw hi? Archebu gwesty.
7 Gofyn am gyfarwyddiadau. Rhoi cyfarwyddiadau.
8 Yn yr orsaf reilffordd/gorsaf bysiau.
9 Hoffi a dim yn hoffi. Archebu mewn bar caffe, parlwr hufen iâ a bwyty.
10 Amser rhydd
Mae pob wythnos yn adeiladu ar ac yn cynnwys yr hyn y gwnaethoch ei ddysgu yr wythnos flaenorol, gan eich galluogi i deimlo’n fwy hyderus yn defnyddio dialog syml mewn sefyllfaoedd bob dydd wrth ymweld â’r Eidal neu ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
Bydd y gwersi hefyd yn cynnwys rhai neu’r cyfan o’r dilynol :-
Gwaith pâr, gwaith grŵp, chwarae rôl, sgwrsio, ymarferion sain yn defnyddio caneuon a dialog Eidalaidd, ymarferion ysgrifenedig syml a gramadeg syml. Fodd bynnag y pwyslais cyffredinol drwy gydol y cwrs yw mwynhau.
TIWTOR: Jane Francombe
Rwyf yn fy nhrydedd blwyddyn fel tiwtor i Dysgu Cymunedol Sir Fynwy ac wrth fy modd yn addysgu Eidaleg ac Almaeneg i ddechreuwyr llwyr yn Nhrefynwy, Brynbuga a’r Fenni.
Fel plentyn, arweiniodd fy nghariad at ieithoedd a diddordeb ysgol mewn gwledydd tramor a arweiniodd fi i astudio Eidaleg ac Almaeneg yn y Brifysgol lle cefais radd ar y cyd, gydag Anrhydedd Adran 2, ar ddiwedd cwrs 4 blynedd.
Rwyf wedi byw, teithio, gweithio ac astudio yn yr Eidal a hefyd yn yr Almaen ac rwy’n dal i fod â chysylltiadau agos gyda ffrindiau a’r teulu y bûm yn byw gyda nhw pan oeddwn yn astudio yn yr Almaen.
Rwyf bob amser yn anelu i wneud fy ngwersi yn hwyliog, rhyngweithiol ac anffurfiol ac yn cynhyrchu fy nhaflenni fy hun, gan eu haddasu yn ôl anghenion y grŵp.
Edrychaf ymlaen at eich croesawu i un o fy ngwersi yn fuan.