Skip to Main Content

Tiwtor: Ceri Seager

DISGRIFIAD O’R CWRS:

Cynlluniwyd Sgwrsio Ffrangeg ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd i astudio Ffrangeg ac mae’n rhoi’r holl gyfleoedd y byddwch eu hangen i siarad a deall Ffrangeg yn hyderus mewn awyrgylch difyr a chyfeillgar.

Mae’r holl weithgareddau yn seiliedig ar sefyllfaoedd cymdeithasol a phroffesiynol, gyda defnydd deunyddiau go iawn megis bwydlenni, hysbysebion a thaflenni. Yn ogystal â siarad, i wella rhugledd a hyder, mae Sgwrsio Ffrangeg hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu i wella dealltwriaeth.

Cynnwys:

  • Pobl a bywyd bob dydd, disgrifiadau ac arferion
  • Hobïau a hamdden, gwyliau’r gorffennol a dewisiadau
  • Trefi a newidiadau dros gyfnod, problemau amgylcheddol a’r dyfodol
  • Gwneud ymholiadau a deall atebion
  • Prynu a gwerthu
  • Dilyn cyfarwyddiadau a gwneud argymhellion

Esbonio problemau a chwynion

Tiwtor: Ceri Seager

Mae gennyf Radd mewn Ffrangeg ac Almaeneg o Brifysgol Manceinion ac rwyf wedi gweithio gyda chwmnïau Ffrengig yn y diwydiant hysbysebu ers dros 11 mlynedd. Rwyf wedi bod yn dysgu ers 2012, ar ôl cwblhau fy Nhystysgrif Addysg i Raddedigion ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac rwyf wedi dysgu disgyblion o bob oed.

Ar hyn o bryd rwy’n addysgu oedolion ar sail ran-amser. Rwy’n mwynhau gweld cynnydd fy myfyrwyr wrth iddynt dyfu mewn rhuglder a hyder. Mae fy nosbarthiadau yn rhai ymlaciol a chyfeillgar ac yn lle gwych i gwrdd â phobl eraill sydd am ddeall a mwynhau diwylliant Ffrainc.