Un o elfennau pwysig proses paratoi ASC yw gweithredu asesiad seilwaith.
Roedd yr adroddiad i’r Cyngor ar y 27ain o Fehefin 2013 yn cynnwys, fel Atodiad, Cynllun Seilwaith Drafft (CS). Roedd Atodlen 1 o’r CS yn rhestri’r seilwaith sydd angen er mwyn darparu’r safleoedd strategol CDLl ar Adnau. Roedd Atodlen 2 yn rhestri ‘creu lleoedd’ a phrosiectau seilwaith eraill posib fesul cytundeb er mwyn galluogi ystyriaeth gychwynnol o’r opsiynau a ellir eu cynnwys yn y CS, yn enwedig os yw cyllid ASC yn dod ar gael.
Gweithredwyd gwaith pellach i’r CS fel Adendwm (Tachwedd 2015). Mae hyn yn diweddaru fersiwn 2013 gan gynnig arolwg o ba gategorïau/mathau o seilwaith y gellir eu hariannu (yn rhannol) gan ASC a beth fydd yn parhau i gael ei gymryd ymlaen trwy S106. Cafodd y prosiectau seilwaith eu hailasesu ac maen nhw’n adlewyrchu’r safle mwyaf diweddar ynglŷn ag anghenion, costau, amseru a ffynonellau ariannu. Cafodd Adendwm y CS ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r ymgynghoriad ar Amserlen Drafft Codi Tâl ASC.
Roedd y Cyngor yn dymuno deall y perthynas yn well rhwng cynllunio seilwaith, ASC a chyllid ac ymrwymiad cymunedol. Chwiliwyd felly am gyngor am y ffordd orau i ddelio gyda gosod blaenoriaethau a chytundebau llywodraethu. Roedd gan y Cyngor diddordeb yn enwedig ynglŷn â sut i daclo blaenoriaethu a darparu seilwaith o fewn cyd-destun dull Cynllun Lleoedd a Chynllun Lle Cyfan. Gan ddefnyddio cefnogaeth grant o Lywodraeth Cymru, cafodd Parkwood Consultancy Services eu comisiynu i gyflwyno adroddiad ynglŷn â ‘Cynllunio ac ariannu seilwaith a’r perthynas gyda Chynllun Lleoedd’. Cafodd yr adroddiad ei greu mewn dwy ran:
- Rhan 1 (Gorffennaf 2016) adolygwyd y dull Lle Cyfan fel y’i gweithredwyd o fewn Sir Fynwy ac ystyriwyd esiamplau o arferion da awdurdodau lleol o fewn Cymru a Lloegr o ran cynllunio seilwaith a chyfranogiad cymunedol. Roedd hefyd yn archwilio esiamplau o Loegr o ddulliau cynllunio ar y cyd rhwng awdurdodau lleol.
- Rhan 2 (Awst 2016, diwygiwyd Mai 2017) ystyriwyd yr ymchwil cafodd ei gwneud yn rhan 1 a chyflwynwyd amrywiaeth o opsiynau llywodraethu ac ariannu am y Cyngor a ellir eu hystyried yn y dyfodol gyda gweithrediad ASC.