Skip to Main Content

Gellir derbyn plant o’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd cyn belled â bod lleoedd ar gael. Gall hyn fod mewn ysgol feithrin a gynhelir gan Awdurdod Lleol neu mewn gosodiad preifat a all fod yn gylch chwarae neu feithrinfa ddydd breifat.

Mae gan Sir Fynwy 12 meithrinfa ysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol a bydd angen i blant fynychu 5 sesiwn yr wythnos ar gyfer sesiwn hanner diwrnod a chael un ai lle bore neu brynhawn. Mae ysgolion yn disgwyl i ddisgyblion sy’n mynychu’r feithrinfa i gymryd yr holl sesiynau sydd ar gael iddynt.

Ceisiadau yn Ystod y Flwyddyn

Gellir gwneud ceisiadau yn ystod y flwyddyn ar unrhyw adeg ar gyfer derbyniadau y tu allan i’r cylch derbyn arferol.

Gwneud cais ar gyfer Medi 2025

Os ganwyd eich plentyn rhwng 1af Medi 2021 a 31ain Awst 2022 gallwch wneud cais am le mewn ysgol feithrin yn 2025 rhwng 4fed Gorffennaf 2024 a 12ydd Medi 2024. Mae gan Gyngor Sir Fynwy system ar-lein i ymgeisio ar gyfer derbyn, sydd ar gael i chi ei defnyddio wrth wneud cais eich plentyn. Mae’r system yn eich galluogi i weld a diwygio cais eich plentyn hyd at y dyddiad cau, sef 12ydd Medi 2024 am 5pm.

Mae’r nodiadau cyfarwyddyd ar gael i’ch helpu i gwblhau eich cais.

Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2024-25

Bydd llythyron penderfyniad ar gyfer lleoedd mis Medi 2025 yn cael eu cyhoeddi ar 11af Tachwedd 2024.

Gellir cynnig cychwyn cynnar i blant a anwyd rhwng 1af Medi 2021 a 31ain Rhagfyr 2021 o fis Ionawr 2025.

Gellir cynnig cychwyn cynnar i blant a anwyd rhwng 1af Ionawr 2022 a 31ain Mawrth 2022 o fis Ebrill 2025.

Nid yw plant a anwyd rhwng 1af Ebrill 2022 a 31ain Awst 2022 yn gymwys i ddechrau’n gynnar.

Bydd llythyron penderfyniad, sy’n cynnig cychwyn cynnar os oes lleoedd ar gael, yn cael eu cyhoeddi:

  • Ar 11af Tachwedd 2024 ar gyfer dechrau yn Ionawr 2025
  • Ar 6af Mawrth 2025 ar gyfer dechrau yn Ebrill 2025

Meini prawf os oes Tanysgrifio

Lle mae mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, caiff y meini prawf dilynol eu gweithredu i benderfynu pwy gaiff y lleoedd sydd ar gael.

1 – Plant sy’n derbyn gofal neu blant a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol, h.y. plant sydd dan ofal neu sydd wedi bod o dan ofal awdurdod lleol.

2 – Seiliau meddygol neu gymdeithasol a amlygir gan asiantaethau priodol

3 – Plant sydd â brawd neu chwaer perthnasol yn bresennol yn y feithrinfa ddewisol.

4 – Ar ôl cymhwyso’r categorïau uchod, neu os yw’r ysgol yn parhau i fod mewn sefyllfa o ordanysgrifio yn unrhyw un o’r categorïau uchod, bydd y flaenoriaeth yn seiliedig ar agosrwydd i’r ysgol a ffafrir, wedi’i fesur gan ddefnyddio’r llwybr cerdded diogel byrraf. Gofynnir i chi ddangos unrhyw ddogfennau priodol yr ystyrir fod eu hangen i wirio cyfeiriadau cartref.

Gellir cael ffurflenni cais i fynychu meithrinfeydd cymeradwy nas cynhelir, cylchoedd chwarae neu Gylchoedd Meithrin yn uniongyrchol o’r gosodiadau. Gellir dod o hyd i rifau cyswllt ar y wefan hon drwy ddefnyddio’r Cyfleuster Chwilio Gofal Plant.

Os ydych angen mwy o wybodaeth am dderbyniadau meithrin cysylltwch â’r Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr ar 01633 644508 neu drwy ddanfon e-bost at accesstolearning@monmouthshire.gov.uk