Skip to Main Content

Apwyntio’r Cadeirydd

  • Etholir y Cadeirydd, sef Pennaeth Dinesig y Cyngor, ym mis Mai bob blwyddyn yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir.
  • Rhaid i’r Cadeirydd fod yn Gynghorydd mewn swydd a rhaid i’r Cadeirydd aros yn wleidyddol ddiduedd yn ystod y cyfnod o flwyddyn yn y swydd.
  • Yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, mae’r Cadeirydd yn penodi Cymar yn ystod y cyfnod fel Cadeirydd.
  • Penodir Is-Gadeirydd y Cyngor hefyd yn y Cyfarfod Blynyddol a bydd yn cynrychioli’r Cadeirydd mewn cyfarfodydd a digwyddiadau yn ei (h)absenoldeb.

Rôl y Cadeirydd

Mae’r Cadeirydd yn meddu ar y cyfrifoldebau canlynol:

  • Goruchwylio cyfarfodydd y Cyngor fel bod modd ymgymryd â’i fusnes yn effeithlon ac o ran hawlia’r Cynghorwyr a buddiannau’r gymuned.
  •  Cynnal a hyrwyddo dibenion y Cyfansoddiad pan fo angen.
  •  Sicrhau bod cyfarfod y Cyngor yn fforwm ar gyfer trafod materion sy’n peri pryder i’r gymuned leol a’r man lle y gall aelodau nad ydynt ar y Pwyllgor Gwaith ddal y Pwyllgor Gwaith a Chadeiryddion y Pwyllgorau yn atebol.
  • Hyrwyddo cyfranogiad y cyhoedd yng ngweithgareddau’r Cyngor.
  • Gweithredu fel cydwybod y Cyngor.
  • Mynychu digwyddiadau dinesig a seremonïol y mae’r Cyngor yn penderfynu sy’n briodol e.e. ymweliadau brenhinol, digwyddiadau elusennol, cefnogi gweithgareddau diwylliannol lleol (tra’n cynrychioli’r Sir, mae’r Cadeirydd yn gwisgo Cadwyn Swydd). Fel rhan o’r rôl, mae’r Cadeirydd yn cael blaenoriaeth o fewn y Sir, ac eithrio Ei Fawrhydi’r Brenin neu ei gynrychiolydd dros y Sir, yr Arglwydd Raglaw.
  • Gall y Cadeirydd enwebu elusen a chynnal digwyddiadau codi arian drwy gydol ei dymor yn y swydd.
  • Mae’r Cadeirydd yn gweithredu fel Dinesydd Cyntaf y Sir gan feithrin hunaniaeth a balchder cymunedol drwy hyrwyddo ardaloedd lleol a chodi proffil Sir Fynwy a’r Cyngor.

Cynghorydd Sir Su McConnel

Cadeirydd y Cyngor 2024 – 2025

Magwyd Su McConnel yn ne-orllewin yr Alban, gan ennill ei gradd gyntaf ym Mhrifysgol St Andrews, lle bu’n Llywydd ar Undeb y Myfyrwyr. Yn dilyn traddodiad teuluol, dihangodd i’r môr ar long uchel, gan symud nôl i’r lan yn yr 80au i ddechrau gyrfa hir yn y Gwasanaeth Prawf. Yn y 90au, symudodd i Gernyw lle bu’n ffermio defaid a thwristiaid yn y busnes teuluol a sefydlodd yno gyda’i gŵr, gan ennill ei hail radd tra bod y teulu Labrador yn magu eu dwy ferch. Yna daeth cysylltiadau teuluol â hwy i gyd i Sir Fynwy, lle maent i gyd yn byw yn y Fenni a’r cyffiniau.

Mae Su yn Is-Gadeirydd Napo Cymru, Undeb y Gweithwyr Prawf yng Nghymru, yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Brenin Harri, Y Fenni. Mae hi’n angerddol dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn gartwnydd amatur brwd, yn hoffi garddio a’n chwaraewr tennis brwdfrydig ond rhydlyd erbyn hyn.

Os hoffech wahodd y Cadeirydd i ddigwyddiad neu os hoffech iddi ymweld â chyfleuster cymunedol, cysylltwch â Chynorthwyydd Personol y Cadeirydd, Linda Greer ar Ffôn: 01633 644020 neu e-bostiwch lindagreer@monmouthshire.gov.uk neu fel arall ysgrifennwch at: Swyddfa’r Cadeirydd, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga NP15 1GA. (Byddem yn gwerthfawrogi pe bai pob gohebiaeth yn cael ei hanfon drwy Swyddfa’r Cadeirydd ac nid yn uniongyrchol at y Cadeirydd).

Os na fydd y Cadeirydd yn gallu mynychu digwyddiad oherwydd ymrwymiad blaenorol bydd y gwahoddiad yn cael ei drosglwyddo i’r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Sir Peter Strong