Gall llifogydd yn Sir Fynwy gael ei achosi gan:
Lawiad trwm hir yn effeithio ar lefelau afonydd;
Llanw uchel yn gorlenwi glennydd ac amddiffynfeydd afonydd;
Ffosydd wedi blocio;
Dŵr yn dod yn ôl i fyny’r draen.
Beth bynnag yr achos, gall yr effaith ar gymunedau yr effeithir yn uniongyrchol arnynt fod yn bellgyrhaeddol. Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwybod am y problemau y gall llifogydd eu hachosi ac mae’n ceisio sicrhau fod trefniadau digonol yn eu lle i dderbyn rhybuddion llifogydd, i fonitro amodau lleol ac ymateb i geisiadau am help gan y gymuned.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd i eiddo sydd mewn risg o lifogydd o Afonydd Wysg, Gwy a Mynwy. Caiff Awdurdodau Lleol, y Gwasanaethau Argyfwng, cyfleustodau a gorsafoedd radio lleol hefyd eu hysbysu pan ddisgwylir llifogydd.
Diogelwch llifogydd
Gall llifogydd ladd – ceisiwch aros yn ddiogel bob amser. Peidiwch cerdded neu yrru drwy ddŵr llifogydd. Gall hyd yn oed ddŵr bas iawn sy’n llifo’n gyflym eich taro drosodd a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn arnofio eich car.
Mae dŵr llifogydd yn aml wedi ei lygru gyda chemegau a charthffosiaeth felly osgowch gyswllt gymaint ag sy’n bosibl a gofyn am gyngor meddygol os buoch mewn cyswllt â dŵr llifogydd.
Peidiwch byth geisio nofio drwy ddŵr llifogydd. Gallai’r dŵr fod wedi’i lygru a gallech hefyd gael eich ysgubo ymaith neu eich taro gan rywbeth sy’n arnofio yn y dŵr.