Mae Gwasanaeth SpLD Sir Fynwy yn cynnal cyrsiau hyfforddiant ar gyfer holl ysgolion y Sir. Cynhelir y rhain fel digwyddiadau drwy’r dydd ar gyfer yr holl staff, mewn cyfarfodydd staff, i grwpiau bach ac rydym yn hapus i gynghori staff yn unigol ar raglenni penodol.
Ar hyn o bryd rydym wedi rhoi hyfforddiant ym mhob ysgol heblaw 5 ar:
Dynodi Plant Dyslecsig
Strategaethau i helpu’r Plentyn Dyslecsig yn yr Ystafell Ddosbarth
Cyflwynwn dystysgrifau i’r rhai sy’n mynychu’r cwrs a chedwir cronfa ddata.
Mae’r holl hyfforddiant a gynigir gan y gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg.
Rydym yn hyfforddi staff ar raglenni penodol fel Wordshark, Spelling Mastery, Dadgodio SRA, Unedau Sain ac yn y blaen fell y gall staff penodol gefnogi gwaith yn dilyn gwers athrawon arbenigol SpLD. Mae hyfforddiant pwrpasol ar gael ar gais.
Rydym yn cynhyrchu llyfrynnau fel Helpu’r Plentyn Dyslecsig yn yr Ystafell Ddosbarth.
Gwasanaeth SpLD Sir Fynwy – ymrwymedig i sicrhau bod ysgolion Sir Fynwy yn Ymwybodol o Ddyslecsia.