Skip to Main Content

Pryd y dylid cofrestru marwolaeth?

Dylid cofrestru marwolaeth o fewn pum diwrnod os nad yw’r crwner yn ymchwilio amgylchiadau’r farwolaeth.

Lle gallaf gofrestru marwolaeth?

Dylid cofrestru marwolaeth yn yr ardal lle digwyddodd. Os bu’r person farw yn Sir Fynwy, bydd angen i chi wneud apwyntiad gyda swyddfa gofrestru Sir Fynwy.

Gellir rhoi manylion y farwolaeth mewn swyddfa gofrestru arall drwy wneud datganiad. Ni ellir cyhoeddi’r dogfennau angenrheidiol ar unwaith yn yr achos hwn ond cânt eu hanfon atoch drwy’r post o swyddfa Sir Fynwy pan dderbyniwyd y datganiad. Cysylltwch â’n swyddfa os gwelwch yn dda os ydych angen mwy o wybodaeth.

A oes angen i mi wneud apwyntiad?

Mae angen i chi wneud apwyntiad i gofrestru marwolaeth. Byddwn yn cadw mor agos ag sydd modd i’n hamserau apwyntiad.

Gallwch weld y cofrestrydd yn Nevill Hall Y Fenni neu’r Hybiau Cymunedol yng Nghas-gwent neu Drefynwy. Gellir gwneud apwyntiadau drwy ffonio’r swyddfa gofrestru ar y rhif islaw:

Y Swyddfa Gofrestru

Cyngor Sir Fynwy

Rhadyr

Brynbuga

NP15 1GA

Ffôn: 01873 735435

 

Pam fod angen i mi gofrestru marwolaeth

Mae’n ofyniad cyfreithiol i gofrestru marwolaeth. Mae angen i chi gofrestru marwolaeth i gael dogfennau ar gyfer y cyfarwyddwr angladdau ac ar gyfer delio gyda stad yr ymadawedig.

Pwy all gofrestru’r farwolaeth?

Mae’n ofyniad cyfreithiol i’r bobl ddilynol, yn nhrefn blaenoriaeth, i gofrestru marwolaeth:

perthynas oedd yn bresennol adeg y farwolaeth

perthynas

person oedd yn bresennol adeg y farwolaeth

meddiannwr y safle lle digwyddodd y farwolaeth, os oedd ef/hi yn ymwybodol o’r farwolaeth

y person sy’n trefnu’r angladd (nid yw hyn yn golygu cyfarwyddwr angladdau)

Mae’n rhaid i chi ddod â thystysgrif feddygol o’r achos marwolaeth a gyhoeddwyd gan y meddyg neu ysbyty oedd yn trin yr ymadawedig.

Faint mae’n ei gostio i gofrestru marwolaeth?

Nid oes ffi am gofrestru’r farwolaeth, fodd bynnag mae tystysgrifau marwolaeth yn costio £12.50 ar ddiwrnod y cofrestru. Mae hyn yn cynyddu i £12.50 y diwrnod dilynol ac i £38.50.

Ar ôl i’r marwolaeth gael ei gofrestru, os byddwch yn darganfod camgymeriad yn y cofnod, bydd ffi o hyd at £99 yn daladwy er mwyn cywiro’r cofnod yn y gofrestr. Cysylltwch â’r cofrestrydd i gael cyngor.

Dweud wrthym Unwaith

Mae angen cofrestru’r farwolaeth gyda’r Cofrestrydd pan mae rhywun wedi marw. Unwaith y gwnaed hynny, efallai bod yn rhaid cysylltu â nifer o sefydliadau eraill a rhoi’r un wybodaeth.

Gallwn eich helpu i roi’r wybodaeth i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol drosoch, yn cynnwys:

  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Asiantaeth Personél Gwasanaeth a Chyn-filwyr
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbort
  • Cynghorau lleol
  • Budd-daliadau Tai
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Llyfrgelloedd
  • Bathodynnau Glas
  • Gwasanaethau Oedolion
  • Asiantaeth Drwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Mae angen i chi fod wedi cofrestru’r farwolaeth cyn y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth. Caiff gwasanaeth Tell Us Once ei gynnig yn ystod yr un apwyntiad ond os byddai’n well gennych ddefnyddio’r gwasanaeth rywbryd arall ar ôl cofrestru’r farwolaeth, gallwch wneud hynny dros y ffôn neu ar-lein. Gallwn roi’r manylion hyn i chi are ôl eich apwyntiad.

I wneud apwyntiad i gofrestru marwolaeth a defnyddio’r gwasanaeth Dweud wrthym Unwaith, ffoniwch 01873 735435 os gwelwch yn dda. Rydym ar agor rhwng 9am a 4.30pm ar ddyddiau Llun a rhwng 9am a 4.30pm a rhwng 9am a 4.00pm ar ddyddiau Gwener.