Skip to Main Content

Mae dewis eang o leoliadau priodas yn Sir Fynwy. Islaw mae rhestr o leoliadau cymeradwy yn Sir Fynwy.

Dylid cofio na all fod priodas sifil neu bartneriaeth heb bresenoldeb swyddog cofrestru mewn mangre gymeradwy. Mae defnydd mangre yn dibynnu ar fod swyddog cofrestru ar gael. Bydd y Cofrestrydd Goruchwylio yn derbyn archebion darpariaethol ar unrhyw adeg.

A godir tâl?
Yn ogystal â chostau rhoi hysbysiad o’r briodas, mae ffi ychwanegol yn daladwy i’r Cofrestrydd Goruchwylio am seremonïau priodas a phartneriaeth sifil mewn mangre gymeradwy.

Cymeradwyo mangre

Cymeradwyo mangre ar gyfer priodas sifil a phartneriaeth sifil

Gwneud cais am y drwydded

Cysylltwch â Chofrestrydd Sir Fynwy ar 01873 735435, ceremonies@monmouthshire.gov.uk cyn gwneud cais am drwydded.