Data agored yw data y gall unrhyw un ei gyrchu, ei ddefnyddio neu ei rannu. Mae gan Gyngor Sir Fynwy ymagwedd at Ddata Agored, lle rydym yn anelu at gyhoeddi setiau data sy’n ddefnyddiol ac nad ydynt yn gyfrinachol mewn fformat data agored.
Mae ein Log Datgelu Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbynnir yn rheolaidd.
Ein Setiau Data Agored:
Data agored am Sir Fynwy a gyhoeddwyd gan sefydliadau eraill:
- Mae StatsCymru yn cyhoeddi data ystadegol ar gyfer Cymru; gwybodaeth am boblogaeth, economi, gwariant a pherfformiad y llywodraeth yng Nghymru yn ogystal â’r amgylchedd, addysg, trafnidiaeth ac iechyd.
- Mae NOMIS yn cyhoeddi gwybodaeth am fusnesau, cyflogau a chyflogaeth yn Sir Fynwy
- Mae DataMapWales yn cyhoeddi data geo-ofodol ar gyfer Cymru, gan gynnwys setiau data gan CADW a Cyfoeth Naturiol Cymru
- Mae ‘What do they know’ yn cyhoeddi ein hymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a wneir gan ddefnyddio ei wefan
Oni nodir yn wahanol, caiff popeth ar y wefan hon ei ryddhau o dan y Drwydded Llywodraeth Agored sy’n golygu y gallwch ei ailddefnyddio a’i atgynhyrchu, gydag ychydig amodau yn unig.