Ble yw’r lle gorau i weld y digwyddiad yn Sir Fynwy?
Er y gall rhai ardaloedd fod ar gau cau i wylwyr am resymau diogelwch, bydd llawer o fannau lle gallwch fwynhau’r digwyddiad. Cyhoeddir mwy o wybodaeth a chanllawiau i wylwyr yn nes at y digwyddiad.
At bwy y dylwn i anfon cwynion?
Ar gyfer unrhyw gwynion am y digwyddiad yn cynnwys trefniadaeth, cysylltwch â desg gymorth Velothon – 02921 660780 neu e-bost: helpdesk@velothonwales.co.uk.
Os yw’r mater yn ymwneud yn benodol â Chyngor Sir Fynwy:
Drwy e-bost: events@monmouthshire.gov.uk
Dros y ffôn: Deb Hill-Howells 01633 644281 neu Dan Davies 01633 644044
Gyda phwy ddylwn i gysylltu os na allaf ddod o hyd i fy ymholiad am gau ffyrdd ac nad yw desg gymorth Velothon yn helpu?
Os oes gennych ymholiad penodol am gau ffyrdd, gallwch anfon e-bost at route@velothonwales.co.uk. Byddant yn ceisio ateb pob ymholiad o fewn tri diwrnod gwaith.
A effeithir ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Fynwy?
Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithredu fel arfer – heblaw llwybr 74 – gyda dargyfeiriadau ar waith lle’n bosibl. Mae’n anochel y caiff rhai gwasanaethau eu cwtogi neu eu gohirio os na allant fynd o amgylch ffyrdd wedi cau. Bydd darparwyr trafnidiaeth yn cyhoeddi mwy o wybodaeth yn nes at y digwyddiad.
Pa barcio fydd ar gael i bobl sy’n byw ac yn gweithio ar ffyrdd yr effeithir arnynt?
Er y caiff y llwybr ei gynllunio i gadw cyfyngiadau i isafswm, bydd angen i rai pobl wneud trefniadau eraill ar gyfer parcio yn ystod y digwyddiad. Caiff unrhyw geir sydd wedi parcio ar y llwybr ar ôl gweithredu cyfarwyddiadau parcio eu symud. Yn y cyfnod cyn y digwyddiad, yn ogystal â’r ohebiaeth uniongyrchol i breswylwyr, rhoddir taflenni ar ffenestri ceir sydd wedi parcio ar y llwybr i’w hatgoffa a gwybodaeth ychwanegol.
Mae Brynbuga yn glirffordd drefol rhwng canol nos a 5pm. Lle gall preswylwyr barcio?
Bydd maes parcio Stryd Maryport ar gael i breswylwyr barcio eu ceir er na allant adael y maes parcio nes bydd y ffordd yn ail-agor am 3.30pm.
A fydd Prydau Cymunedol/Gofal Cartref yn medru dosbarthu ar y dydd?
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gweithredu ‘busnes fel arfer’ ar y dydd. Cewch eich hysbysu ymlaen llaw os oes unrhyw newidiadau i’ch ymweliad neu ddosbarthiad.
A fydd darparwyr gofal preifat yn gweithio fel arfer ar y dydd?
Byddant – cewch eich hysbysu ymlaen llaw os oes unrhyw newidiadau i’ch ymweliad neu ddosbarthiad.
A fydd Canolfan Ailgylchu Cartrefi Brynbuga ar agor?
Na – bydd hyn ar gau ar y dydd. Defnyddiwch ganolfan arall os gwelwch yn dda.
A fydd gwasanaethau arferol Cyngor Sir Fynwy ar gael ar Ddiwrnod y Velothon?
Byddant – ar wahân i ymyriad ar gyfer rhai llwybrau bws, Canolfan Ailgylchu Brynbuga, cyfyngiadau parcio ceir Stryd Maryport a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol (fel y manylir uchod) – bydd gwasanaethau eraill Cyngor Sir Fynwy sydd fel arfer yn rhedeg ar ddyddiau Sul yn parhau e.e. pob canolfan hamdden, galwadau argyfwng tu allan i oriau, teleofal / llinell ofal / larymau cymunedol, tai / digartrefedd ac yn y blaen.
Rwy’n disgwyl ymwelwyr ac ym Mrynbuga – lle gallan nhw barcio os yw maes parcio Stryd Maryport ar gau?
Byddem yn gofyn i ymwelwyr gofio am gau ffyrdd a’r effaith a gaiff hynny ar eu trefniadau teithio. Bydd lleoedd parcio ar gael ym maes parcio Neuadd y Sir ar gyfer y rhai sy’n ymweld â Brynbuga ac a all gerdded i ganol y dref.
A gynigir iawndal am golli refeniw i fusnesau yr effeithir arnynt?
Cyfeiriwch at ddesg gymorth Velothon.
Rwy’n ffermwr a bydd angen i mi fynd at dda byw/chaeau sy’n agor yn syth i’r llwybr. Sut gallwch chi helpu?
Cyfeiriwch at ddesg gymorth Velothon.
Nid yw llinell gymorth Velothon yn ateb/yn fy ffonio yn ôl.
Mae Run4Wales wedi sefydlu canolfan alwadau i ymateb ymholiadau am y digwyddiad. Gofynnir i chi barhau i geisio ffonio’r rhif neu gysylltu â nhw drwy e-bost. Efallai y gallwn eich helpu os yw’ch cwestiwn yn cyfeirio at broblem yn Sir Fynwy. Cysylltwch â ni yn un o’n hybiau neu ar 016533 644644 a byddwn yn ceisio datrys eich ymholiad.
Pam fod Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno i gynnal y digwyddiad yma eto? Pwy yn y cyngor gytunodd i hyn?
Fe wnaeth Cyngor Sir Fynwy drafod a chytuno cynnal digwyddiad Velothon mewn cyfarfod o’r cyngor ar 19 Tachwedd 2015. Cymerwyd y penderfyniad ar y sail y caiff y llwybr ei addasu ac y byddai Run4Wales yn cynnal ymgynghoriad i wneud yn siŵr y byddai pawb yr effeithid arnynt yn cael gwybod am gau ffyrdd ac effeithiau posibl. Mae digwyddiad Velothon yn rhoi cyfle i ddangos y sir i’r sawl sy’n cymryd rhan, y gwylwyr a’r cyfryngau.
Faint mae digwyddiad Velothon yn ei gostio i’r cyngor?
Trefnwyr y digwyddiad sy’n talu am gost trefnu a chynnal a digwyddiad, er ei fod wedi golygu costau i’r cyngor o ran amser staff. Gall fod costau yn dilyn y digwyddiad i symud sbwriel a byddwn yn gwybod am hyn ar ôl y digwyddiad.
Ymholiadau i’r wasg?
Dylid cyfeirio pob ymholiad gan y wasg am y digwyddiad at Run4Wales, trefnwyr y ras, yn y lle cyntaf. Ar gyfer ymholiadau penodol am Sir Fynwy cysylltwch â’n Tîm Cyfathrebu drwy e-bost:
Communications@monmouthshire.gov.uk
Rwy’n berchennog busnes – pam y cafodd y llwybr ei newid o’r llynedd gan ei fod yn effeithio arnaf i erbyn hyn? Pam nad oedd ymgynghoriad ac a ellir ei newid ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Cafodd y llwybr ei newid i dangos adborth a gafwyd cyn ac ar ôl digwyddiad 2015. Mae Run4Wales wedi ymgynghori gyda busnesau i’w hysbysu am y digwyddiad. Bydd adolygiad o’r digwyddiad a chaiff adborth ei ystyried.
Rwy’n talu trethi busnes ac mae’n effeithio ar fy musnes – a fyddaf yn cael disgownt?
Ni fydd unrhyw iawndal ar gael i unrhyw fusnesau neu breswylwyr y mae’r digwyddiad yma’n effeithio arnynt.
Rwy’n ofalwr personol ac mae angen i mi groesi’r llwybr/teithio ar hyd y llwybr ar y diwrnod. Sut allaf i drefnu hyn?
Cysylltwch â staff desg gymorth Velothon a fydd yn gallu eich cynghori.
Rwy’n gadael i fynd ar wyliau ar y dydd – sut allaf i groesi’r llwybr/teithio ar hyd y llwybr?
Cysylltwch â staff desg gymorth Velothon a all eich cynghori.
Pa drefniadau a gaiff eu rhoi ar waith i atal seiclwyr rhag defnyddio fy ngardd fel tŷ bach?
Mae’r trefnwyr wedi trefnu i doiledau symudol fod ar gael mewn lleoliadau addas ar hyd y llwybr. Cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad i gael mwy o fanylion.
Rwy’n glaf ac efallai bydd angen i mi gael triniaeth feddygol ar y dydd (dialysis/beichiog/
diabetig ac yn y blaen). Gyda phwy y dylwn i gysylltu?
Cysylltwch â desg gymorth Velothon/Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan – dylid fod wedi gwneud trefniadau i ddarparu ar gyfer eich anghenion. Caiff achosion argyfwng eu trin ar y dydd a gwnaed darpariaeth ar gyfer hyn.
Pa bwerau sydd gennych sy’n eich galluogi i gau’r ffyrdd ar gyfer y digwyddiad yma?
Mae’r cyngor yn dibynnu ar adran 16A Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i gau’r ffyrdd.
Ymholiadau am arwyddion rhybuddio ymlaen llaw am y Velothon?
Ar gyfer unrhyw faterion neu ymholiadau am arwyddion ymlaen llaw a gewch am arwyddion Velothon, cyfeiriwch nhw at Datrysiadau Traffig Ffordd:
josh.hughes@roadtrafficsolutions.com | 01724 848 246
dave.lawrence@roadtrafficsolutions.com | 01724 848 246
Maent yn anelu i drin pob mater am arwyddion o fewn un diwrnod busnes, ond o fewn chwe awr lle’n bosibl.