Adran Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Ganolog
- Cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch
- Cyngor i fusnesau
- Gweithdrefnau ar gyfer Damweiniau a gwneud Adroddiadau
Gallwch yn awr wneud adroddiad ar-lein am ddamweiniau neu gwynion iechyd a diogelwch.
Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.
Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.
Cyfrifoldebau iechyd a diogelwch
Mae’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch yn rhoi’r ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio ar y cyflogydd (cwmni, partneriaeth neu unigolyn). Mae Iechyd ar Waith, Llinell Gyngor Cymru yn wasanaeth ffôn rhad ac am ddim a chyfrinachol sy’n cynnig cyngor a datrysiadau ar iechyd yn y gwaith/iechyd galwedigaethol ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion busnesau bach a chanolig yng Nghymru, a allai ei chael yn anodd cadw gwasanaethau o’r fath neu ganfod y costau’n rhwystr. Mae mwy o wybodaeth ar y gwasanaeth ar gael ar-lein ar wefan Iechyd ar Waith Cymru.
Gall cyfrifoldebau gael ei ddirprwyo i ‘berson cymwys’ a benodwyd i roi cyngor ar iechyd a diogelwch e.e. cymorthwyr cyntaf, wardeiniaid tân, y gofalwr, ond mae’r cyflogwr yn parhau i fod yn atebol yn gyfreithiol.
Mae gan bawb a gyflogir ddyletswydd gyfreithiol i gydweithredu gyda’u cyflogydd a pheidio achosi difrod neu gamddefnyddio unrhyw beth a ddarperir ar gyfer iechyd a diogelwch.
Gellir erlyn cyfarwyddwyr, rheolwyr, goruchwylwyr ac ati am droseddau iechyd a diogelwch os digwyddodd y drosedd gyda’u ‘caniatâd neu gyfrifoldeb’.
Mae’n rhaid i gyflogwyr ymgynghori â’u cyflogeion ar faterion iechyd a diogelwch.
Gall y cyflogwr ei hunan, aelod o staff a hyfforddwyd yn addas neu ymgynghorydd fod y ‘person cymwys’.
Pwy sy’n gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch yn fy ngweithle?
Caiff gorfodaeth Iechyd a Diogelwch ei rannu rhwng awdurdodau gorfodi. Cyngor Sir Fynwy sy’n gyfrifol am orfodaeth yn y rhan fwyaf o safleoedd gwasanaeth a manwerthu, gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am safleoedd mwy fel ffatrïoedd. Mae’r Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur yn gyfrifol am weithgareddau awyr agored.
Cyngor Sir Fynwy
- Siopau
- Swyddfeydd
- Safleoedd Trin Gwallt
- Sinemâu
- Gwestai
- Gweithgareddau hamdden a chwaraeon
- Warysau
- Canolfannau teiars ac egsôst
- Eglwysi
- Banciau
- Parlyrau harddwch
- Golchfeydd
- Cartrefi gofal preswyl (os nad yn eiddo’r cyngor)
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Dociau
- Ffeiriau
- Adeiladu
- Trwsio ceir
- Gweithdai
- Safleoedd Cynghorau Dinas
- Argraffwyr
- Deintyddion
- Meddygon
- Prifysgolion
- Colegau
- Sychlanhawyr
- Ffatrïoedd
- Ysbytai
- Atgyweirwyr setiau teledu
- Cartrefi nyrsio
Cysylltwch â:
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Rhan 2, Adeiladau Llywodraeth
Parc Tŷ Glas
Llanisien
Caerdydd
CF23 2SH
Ffôn: 029 2026 3000
www.hse.gov.uk
Gweithgareddau awyr agored neu weithgareddau antur megis dringo, chwaraeon d?r, trecio ac ogofa. Mae’n ofynnol i unrhyw berson sy’n darparu gweithgareddau o’r fath i gael trwydded gan yr AALA.
Cyngor iechyd a diogelwch ar gyfer busnesau
Islaw mae help a chyngor ar gamau gweithredu y mae’n rhaid i fusnesau bach eu cymryd i gydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch.
Mae 10 peth allweddol y mae’n rhaid i chi wneud:
- Penderfynu beth allai achosi anaf i bobl a sut i gymryd mesurau rhagofalu. Eich asesiad risg yw hyn. Mae ffurflen hunanasesu barod ar gael yn y llyfryn Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch.
- Penderfynu sut y byddwch yn trin iechyd a diogelwch yn eich busnes. Os ydych yn cyflogi 5 neu fwy o bobl, bydd angen i hyn fod ar bapur. Dyma’ch polisi iechyd a diogelwch. Mae ffurflen yn y llyfryn fel uwchlaw.
- Os ydych yn cyflogi unrhyw un, mae’n rhaid i chi gael Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr ac mae’n rhaid i chi ddangos y dystysgrif yn eich gweithle.
- Mae’n rhaid i chi ddarparu hyfforddiant iechyd a diogelwch am ddim i’ch gweithwyr fel y byddant yn gwybod pa beryglon a risgiau a all eu hwynebu a sut i ddelio gyda hwy.
- Mae’n rhaid i chi gael cyngor cymwys i’ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau iechyd a diogelwch. Gall gweithwyr o’ch busnes, cynghorwyr allanol neu gyfuniad ohonynt roi hyn.
- Mae angen i chi ddarparu toiledau, cyfleusterau ymolchi a dwr yfed ar gyfer pawb a gyflogwch, yn cynnwys rhai gydag anableddau. Mae’r rhain yn anghenion sylfaenol iechyd, diogelwch a lles.
- Mae’n rhaid i chi ymgynghori â chyflogeion ar faterion iechyd a diogelwch.
- Os oes gennych gyflogeion, mae’n rhaid i chi ddangos y poster cyfraith iechyd a diogelwch neu roi taflen yn cynnwys yr un wybodaeth i weithwyr.
- Os ydych yn gyflogwr, yn hunangyflogedig neu’n rheoli safle gwaith, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi wneud adroddiad am rai damweiniau cysylltiedig â gwaith, clefydau a digwyddiadau peryglus.
Canllaw ar-lein Safestartup
Mae gan Safestartup.org ganllaw ar-lein ar gyfraith iechyd a diogelwch i helpu busnesau bach.
Fe’i cynhyrchwyd gan y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH) a’i gefnogi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Gwasanaeth Busnes Bach.
Edrychwch ar ganllaw SafeStart Up ar wefan IOSH. Mae’n rhoi gwybodaeth cam wrth gam i’ch helpu i nodi’r hyn mae angen i chi ei wneud ar gyfer iechyd a diogelwch, yn seiliedig ar eich math o fusnes a faint o bobl a gyflogwch.
Gall Safe Start Up helpu busnesau bach a chwmnïau newydd i gydymffurfio gyda rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol.
Mae’r canllawiau’n cynnwys:
- cofrestru eich busnes
- paratoi polisi iechyd a diogelwch
- yswiriant
- gwneud adroddiad am ddamweiniau
- cyfleusterau lles a diogelwch tân
- asesiad risg
- canllawiau penodol ar gyfer gwahanol fathau o fusnes
Beth mae’n rhaid i mi ei wneud i redeg busnes diogel?
- Darparu man gwaith diogel ac iach i’ch staff, cwsmeriaid, ymwelwyr a chontractwyr
- Darparu a chynnal offer a pheiriannau diogel sy’n addas i’r diben
- Cynllunio gweithgareddau fel eu bod yn ddiogel a heb risg i iechyd a darparu unrhyw offer diogelu angenrheidiol
- Rhoi’r holl wybodaeth, hyfforddiant, goruchwyliaeth a hyfforddiant i staff a phobl eraill
- Asesu risgiau staff ac eraill o’r gweithle a gweithgareddau gwaith a gwirio fod pob mesur diogelwch angenrheidiol yn ei le
- Gwirio fod contractwyr yn defnyddio systemau diogel o waith pan fyddant ar eich safle a rhoi unrhyw wybodaeth iddynt y gallent fod ei angen i weithio’n ddiogel e.e. paneli asbestos ar ddrysau tân
- Cofnodi damweiniau yn eich llyfr damweiniau a rhoi adroddiad arnynt ar-lein pan fo angen i’r Ganolfan Cyswllt Digwyddiadau drwy ffonio 0845 300 9923
Canllaw Hunanasesu Ar-lein
Mae gan Business Link ganllaw ar-lein i helpu busnesau bach gyda chyfraith iechyd a diogelwch.
Gall arfer iechyd a diogelwch da gael effaith gadarnhaol ar hawliadau yswiriant ac mae hefyd yn gwella eich enw da ymhlith cwsmeriaid, y gymuned leol a’r sawl a gyflogwch.
Cynlluniwyd y canllaw i fesur pa mor dda yr ydych yn trin materion iechyd a diogelwch a bydd yn:
- eich helpu i ddeall pa mor dda yr ydych yn dynodi a rheoli peryglon iechyd a diogelwch
- rhoi gwybodaeth wedi’i dargedu i’ch helpu i wella rheoli iechyd a diogelwch
- eich galluogi i gymharu eich perfformiad yn ddienw gyda busnesau eraill ar draws sectorau a meintiau
Cafodd ei gynllunio i helpu premiwm Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr i adlewyrchu cofnod iechyd a diogelwch.
Dylai gymryd tua 15 munud i lenwi’r dangosydd.
Mae’n gweithio drwy ofyn cyfres o gwestiynau ar y 10 prif berygl a gaiff busnesau bach a chanolig a pha mor aml y mae’r damweiniau neu ddigwyddiadau hyn yn digwydd. Caiff sgôr allan o 10 ei gyfrif ar gyfer pob un – gyda 10 y canlyniad gorau posibl a 10 y gwaelaf.
Fodd bynnag, nid yw’n ddull archwilio cynhwysfawr. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch i ystyried yr ystod gyfan o risgiau a all fod yn wynebu eich gweithwyr pan fyddwch yn y gwaith. Nid yw’n delio gyda’r peryglon arbennig sy’n wynebu diwydiannau neilltuol.
Datblygwyd y dangosydd perfformiad gan Business Link, gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Cymdeithas Yswirwyr Prydain a Chymdeithas Brocwyr Yswiriant Prydain.
Canllaw Hunanasesu Business Link
Mae hyn ar wefan allanol ac nid yw Cyngor Sir Fynwy yn gyfrifol am ei gynnwys.
Pa ddogfennau wyf eu hangen?
Os ydych yn cyflogi 5 neu mwy o bobl mae’n rhaid i chi:
- Bod â pholisi diogelwch ysgrifenedig
- Ysgrifennu nodau arwyddocaol eich asesiad risg
- Gwneud yn sicr fod yr holl bobl berthnasol yn gwybod am eich gweithdrefnau a mesurau diogelwch a’u bod yn dilyn.
I wneud hyn rydych angen person cymwys i helpu’r cwmni i gydymffurfio. Mwy o wybodaeth – Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Mae’n rhaid i’ch polisi diogelwch:
-
- Ddweud fod gan y cwmni ymrwymiad i iechyd a diogelwch ei gyflogeion. Mae’n rhaid i’r datganiad hwn gael ei lofnodi a’i ddyddio gan y cyflogwr, cyfarwyddwr neu debyg.
- Dweud pwy yn y sefydliad sy’n gyfrifol am wahanol agweddau iechyd a diogelwch e.e. cymorth cyntaf, hyfforddiant, diogelwch tân, cynnal a chadw, glanhau, cofnodion damweiniau ac adroddiadau ac ati
- Disgrifio eich trefniadau ar gyfer:
- Hyfforddiant
- Cymorth cyntaf
- Cofnodion ac adroddiadau damweiniau
- Cadw ty a glanhau
- Cynnal a chadw
- Offer diogelu
- Contractwyr
- Amodau cyffredinol y gweithle
Asesiad Risg
Diben asesiad risg yw gwirio eich bod yn cydymffurfio gyda chyfreithiau iechyd a diogelwch. Dim ond risgiau sylweddol sy’n rhaid eu hasesu. Wrth gynnal asesiad risg, mae’n rhaid i chi:
-
-
- Edrych ar ganllawiau
- Siarad gyda staff
- Dynodi peryglon
- Dynodi mesurau rheoli presennol
- Penderfynu os oes angen mesurau rheoli ychwanegol
- Ysgrifennu popeth i lawr
- Ysgrifennu pwy sy’n gyfrifol am roi unrhyw fesurau rheoli ychwanegol yn eu lle a’r dyddiad ar gyfer eu gorffen
- Gwirio fod yr holl fesurau rheoli yn eu lle ac yn effeithlon (holwch staff)
- Adolygu’n flynyddol neu os oes angen newid unrhyw beth
- Cofio asesu’r risgiau o weithgareddau anaml megis clirio gwteri yn ogystal â gweithgareddau arferol tebyg i ddefnyddio cyfrifiadur.
-
Yn y rhan fwyaf o fusnesau’r materion a fyddai’n cael eu hystyried fel arfer fel asesiad risg yw:
-
-
- Llithro, baglu a chodymau
- Codi a chario
- Trafnidiaeth gweithle
- Syrthio o uchder a phethau’n syrthio
- Tân
- Trydan
- Nwy
- Offer Sgrin Arddangos
- Pobl sy’n gweithio ar ben eu hunain/trais
- Straen
- Ysmygu goddefol
- Gweithgareddau swyddfa
- Gweithgareddau cegin
- Glanhau (sylweddau peryglus, cyfarpar trydan)
- Cynnal a chadw (adeilad a’r tir o amgylch)
- Offer pwer
- Sylweddau fflamadwy
- Sylweddau peryglus
-
Mae angen i chi feddwl os oes unrhyw beryglon eraill yn deillio o weithgareddau gwaith ar eich safle.
Diogelwch Seler
Adolygwch ddiogelwch eich seler i atal anafiadau difrifol i chi a’ch staff.
Mae Tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal ymgyrch leol i godi ymwybyddiaeth o beryglon mewn seleri.
Cafodd dau o bobl eu lladd yng Nghymru yn gysylltiedig â syrthio i seleri mewn blynyddoedd diweddarar a digwyddiad yn Nhorfaen lle achoswyd anafiadau perosnol difrifol ar ôl syrthio i agoriad seler. Mae hwn yn amser da i adoilygu eich asesiadau o risg eich seler drwy ystyried:
- Syrthio o uchder
- Codi a chario
- Llithro a baglu
- Diogelwch offer cadw lle mae lifftiau seler neu lifftiau yn cael eu darparu neu eu defnyddio ar gyfer gwaith seler
- Rheoli agoriadau seler pan gânt eu defnyddio a diogelwch pan na chânt eu defnyddio
- Cyflwr stepiau, grisiau a sgidiau
- Diogelwch trafnidiaeth gweithle ar gyfer nwyddau’n cyrraedd (llwybr/iard/parcio)
- Goleuo
- Hyfforddiant
- Glanhau lein gwrw
- Canfod nwy yn gollwng
Os ydych yn bryderus, gofynnwch am ymweliad cynghori os gwelwch yn dda.
Caiff ymweliadau eu cynnal ar sail ymgynghoriaeth gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd profiadol.
Ffi ymweliad – £60 yr awr (yn cynnwys TAW).
I drefnu ymweliad, cysylltwch â Kris Williams, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd drwy ffonio 01291 635711 neu e-bost kristianwilliams@monnmouthshire.gov.uk
Gofynnir i chi nodi y gallai ymweliadau ffurfiol gan swyddogion o’r Adran i asesu diogelwch seler eich safle fod yn rhan o gynllunio gwaith y dyfodol neu mewn ymateb i ymarferion gwyliadwriaeth leol yn ystod ymweliadau arferol gan staff rheoleiddiol arall.
Cael mwy o gyngor ar Iechyd a Diogelwch
Ar ôl ymchwilio’r gwasanaeth cyngor a chanllawiau ar-lein yn yr ardal hon, ble arall allwch chi gael help?
Gallwch gael mwy o gyngor a lawrlwytho neu archebu dewis eang o gyhoeddiadau am ddim o wefannau llawer o sefydliadau, yn cynnwys:
-
-
- RoSPA (Cymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau). Mae ganddynt becyn cyngor defnyddiol ar gyfer busnesau llai – Trin Iechyd a Diogelwch.
- Llinell wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ffôn 0845 345 0055 i gael mynediad cyflym i lawer o wybodaeth ar iechyd a diogelwch, cyngor arbenigol a chanllawiau cyfrinachol.
-
Os ydych yn gyflogwr neu’n gyflogai yn Sir Fynwy, gallwch hefyd gysylltu â swyddogion iechyd a diogelwch y cyngor i gael cyngor ac archwiliadau.
Mae gennym stoc gyfyngedig o gyhoeddiadau print yn ein swyddfeydd, yn cynnwys taflenni HSE, ar gyfer busnesau yn Sir Fynwy nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd.
Damweiniau a’r broses adroddiadau
Dywed Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 fod dyletswydd gyfreithiol i wneud adroddiad am anafiadau a chlefydau penodol a digwyddiadau peryglus i’r awdurdod gorfodi priodol.
Beth ddylid gwneud adroddiad amdano dan RIDDOR? (Rheoliadau Adroddiadau am Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 1995)
Fel cyflogwr, person sy’n hunangyflogedig neu rywun sy’n rheoli safle gwaith, mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch dan RIDDOR i wneud adroddiad a chofnodi rhai damweiniau cysylltiedig â gwaith drwy’r dulliau cyflymaf posibl.
Y rheswm dros wneud adroddiad yw:
- ymchwilio achos y digwyddiad
- atal y digwyddiad rhag ailddigwydd
- galluogi deiliaid dyletswydd i gydymffurfio gyda deddfwriaeth iechyd a diogelwch
Bydd gan bob awdurdod gweithredu ‘Bolisi Ymchwiliad Digwyddiad’ fydd yn penderfynu pa anafiadau, clefydau a digwyddiadau peryglus gaiff eu hymchwilio Bydd ymchwiliad o’r fath yn dibynnu ar natur a maint y digwyddiad, hanes blaenorol digwyddiadau yn y safle hwnnw, os oes gan ddigwyddiad ddimensiwn cenedlaethol, ehangach.
Sut mae gwneud adroddiad am ddigwyddiad?
Ansicr sut i wneud adroddiad am ddamwain neu ddigwyddiad? Cofiwch ei bod yn well rhoi adroddiad am ddigwyddiad a chael gwybod nad oes angen gwneud hynny nag yw i hi beidio adrodd y digwyddiad a chyflawni trosedd.
Pwy sy’n gorfod gwneud yr adroddiad?
- cyflogwyr
- pobl hunangyflogedig
- person sy’n rheoli safle
Pwy ddylwn i hysbysu?
ICC (Canolfan Gyswllt Digwyddiadau)
Parc Busnes Caerffili
Caerffili
CF83 3GG
Ffôn: 0845 300 9923 (cyfraddau lleol)
E-bost: riddor@natbrit.com
Cysylltwch â:
Yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA)
11 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 3SN
Ffôn: 029 2075 5715
http://www.aala.org/