Bydd gwyl flaenaf Cymru’n ymweld â Sir Fynwy a’r ardaloedd cyfagos o 29 Gorffennaf – 6 Awst 2016, gyda’r Maes wedi’i leoli’n agos at dref hyfryd Y Fenni.
Yn ôl ymchwil annibynnol dros gyfnod helaeth, mae cynnal y Brifwyl yn rhoi hwb o £6-£8 miliwn i economi’r dalgylch yn ystod yr wythnos, gyda’r sector dwristiaeth a lletygarwch yn elwa fwyaf. Bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i’r ardal yn ystod yr wythnos, a bydd pawb angen gwybodaeth am wasanaethau lleol a beth sydd i’w wneud yn yr ardal.
Mae’r Eisteddfod yn:
- Prosiect cymunedol sy’n para am ddwy flynedd;
- Gŵyl gelfyddydol sy’n rhoi llwyfan cenedlaethol i gerddoriaeth a dawns;
- Maes lliwgar gyda phafiliwn yn ganolbwynt i’r cystadlu a’r seremonïau, a gweithgareddau o bob math o’i amgylch;
- Dros 300 o stondinau amrywiol a Neuadd Arddangos sy’n llawn crefftwyr, gemwaith a gwaith celf.
Byddwn yn defnyddio’r dudalen yma i roi cymaint o wybodaeth ag y gallwn, pan fydd yr wybodaeth honno gennym. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych ei angen, cysylltwch yn defnyddio’r manylion islaw os gwelwch yn dda.
CYFLE I GRWPIAU GARDDIO A CHANOLFANNAU GARDDIO SIR FYNWY I GYMRYD RHAN YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
Hoffem roi cyfle i grwpiau garddio a busnesau lleol greu ardal gardd hyfryd tu allan i Babell Sir Fynwy yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni rhwng 29 Gorffennaf – 6 Awst.
Disgwylir 150,000 o bobl i ymweld â maes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos felly bydd yn gyfle gwych i ddathlu busnesau a grwpiau yn Sir Fynwy. Bydd gennych lain 7x5M i’w llenwi gyda gwelyau blodau uchel, bwâu, cadeiriau siglen, llwybrau, gerddi llysiau; mae’r cyfan ar gael i chi greu a dangos yr hyn sydd gennych i’w gynnig (yn naturiol bydd lleoedd ar gyfer brandio/arwyddion i annog ymwelwyr i ddod at eich busnes). Bydd gennym hefyd lwyfan bysgio dan enw ‘Y Cornel Cwtch’ yn yr ardd lle bydd rhaglen o farddoniaeth, cerddoriaeth fyw a dawns drwy gydol y dydd.
Gwahoddwn chi i gymryd rhan a lledaenu’r gair drwy gysylltu â Nicky Neil yng Nghyngor Sir Fynwy yn t nickyneil@monmouthshire.gov.uk erbyn 3 Mehefin 2016.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am yr Eisteddfod neu os ydych yn ansicr gyda phwy i gysylltu, cysylltwch â:
- E-bost: gwyb@eisteddfod.org.uk
- Ffôn: 0845 4090 300
- Twitter: @Eisteddfod_Eng neu @Eisteddfod
Ar gyfer ymholiadau penodol y Cyngor, cysylltwch â:
- E-bost: events@monmouthshire.gov.uk
- Ffôn: 01633 644644
- Twitter: @MonmouthshireCC