Skip to Main Content

Wedi’i lleoli mewn tref farchnad hanesyddol, mae Marchnad y Fenni yn ferw o weithgaredd. Mae’r farchnad yn cynnig amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau gan ddenu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Cynhelir marchnadoedd cyffredinol rhwng 9am-4pm bob dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Sadwrn, gan gynnig amrywiaeth eang o gynnyrch yn cynnwys nwyddau ffres, dillad ac eitemau i’r cartref.

Yn ogystal â’r marchnadoedd cyffredinol, mae’r Fenni hefyd yn cynnal marchnad rad ar ddyddiau Mercher 9am-4pm, gan roi cyfle i siopwyr bori drwy hen gelfi, eitemau casgladwy a phethau unigryw.

Mae’r Farchnad Ffermwyr, a gynhelir ar 4ydd dydd Iau pob mis, yn arddangos cynnyrch lleol ffres gan ffermwyr y cylch. Cynhelir marchnadoedd stryd a chrefftau hefyd ar 4ydd dydd Iau pob mis, yn cynnig nwyddau llaw a chrefftau.

Mae Marchnad y Fenni hefyd yn un o noddwyr Gŵyl Fwyd y Fenni a gynhelir bob blwyddyn ac sy’n dathlu danteithion y dref. Mae’r farchnad hefyd yn gweithredu fel gofod ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau cymunedol a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Gyda’i chynnig amrywiol ac awyrgylch bywiog, mae Marchnad y Fenni yn parhau i fod yn gyrchfan boblogaidd i breswylwyr ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Ffioedd Masnachwyr y Fenni o 1 EBRILL 2024
Maint LlainMawrthMercherGwenerSadwrn a ChrefftBwyd StrydFfermwr
1 bwrdd£19.00£11.50£13.00£19.00£21.00£6.50 UNRHYW LAIN
2 fwrdd£35.50£21.50£19.00£31.50£37.00
3 bwrdd£48.00£32.00£25.00£41.50£52.50
Uned£66.50£34.00£35.50£47.50£58.00
Tu allan bachpris y fedr sgwâr£12.00£13.50£13.50D/G
Tu allan mawrpris y fedr sgwâr£18.00£28.00£28.00D/G
Tryc bwyd dim pŵerpris y fedr sgwârD/GD/GD/G£42.00
Tryc bwyd gyda phŵerpris y fedr sgwârD/GD/GD/G£52.50

Mae Marchnad Trefynwy yn farchnad ar ddau safle yn nhref hardd Trefynwy. Mae un o’r lleoliadau y tu allan i Neuadd Sirol eiconig Trefynwy, adeilad hanesyddol sydd yn bwysig iawn i’r gymuned leol. Mae’r safle arall yn y maes parcio ger yr hen bont, gan roi golygfeydd gwefreiddiol i ymwelwyr o’r Afon Mynwy a’r wlad o amgylch.

Gan weithredu rhwng 9am a 4pm ar ddyddiau Gwener a Sadwrn, mae Marchnad Trefynwy yn cynnig ystod eang o nwyddau a chynnyrch i ymwelwyr eu gweld a’u prynu. O ffrwythau a llysiau ffres i nwyddau a chrefftau cartref, mae rhywbeth i bawb yn y farchnad fywiog hwn.

P’un ai ydych yn edrych am ddanteithion, anrheg arbennig neu ond eisiau mwynhau golygfa a synau diwrnod marchnad traddodiadol, mae gan Farchnad Trefynwy rywbeth i’w cynnig i chi.

Ffioedd Masnachwyr Trefynwy O 1 Ebrill 2024
Marchnadoedd Trefynwy (fesul bwrdd neu fae)
Maint LlainDydd GwenerDydd Sadwrn
1 bwrdd£6.00£6.00 
2 fwrdd£12.00£12.00
3 bwrdd£18.00£18.00
4 bwrdd£24.00£24.00
Marchnad Dydd Sul 
Fesul diwrnod£20.00 fesul diwrnod 

E-bost: markets@monmouthshire.gov.uk