Skip to Main Content

Trosolwg

Os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol, efallai y gallwch hawlio prydau ysgol am ddim ar eu cyfer.

Os yw eich plentyn yn yr ysgol gynradd, mae hyn yn golygu un cinio am ddim bob dydd. Ar gyfer plant yn yr ysgol uwchradd, mae’n golygu lwfans dyddiol i helpu i dalu am eu cinio.

Mae’r wybodaeth am bwy sy’n derbyn cinio ysgol am ddim yn breifat.

Mae prydau ysgol am ddim wedi newid

Mae’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) yn ei gwneud yn ofynnol i rieni a gwarcheidwaid cymwys wneud cais.

Ond gyda chyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl Blant Ysgolion Cynradd, bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn derbyn pryd ysgol am ddim erbyn Medi 2024.

Mae pob plentyn yn yr ysgolion cynradd yn Sir Fynwy bellach yn eu derbyn.

Gwneud cais am eFSM i dderbyn cefnogaeth ychwanegol

Fe ddylech barhau i wneud cais am eFSM os ydych yn gymwys hyd yn oed pan fydd UPFSM yn golygu y bydd eich plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Mae hyn oherwydd:

  • gallwch fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth arall, fel y Grant Hanfodion Ysgol
  • gall eich ysgol dderbyn arian ychwanegol

Pwy sy’n gymwys

Efallai eich bod yn gymwys os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol gynradd ac yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal incwm
  • Lwfans ceisio gwaith
  • Lwfans cymorth a chyflogaeth (yn gysylltiedig ag incwm)
  • Credyd Treth Plentyn (nid ydych yn gymwys os ydych hefyd yn derbyn Credyd Treth Gwaith)
  • Credyd Pensiwn 
  • Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Cynhwysol   

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau.

Gwneud cais

Gwnewch gais am eFSM os ydych yn gymwys hyd yn oed os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn barod.

Gallwch wneud cais unrhyw bryd.

I wneud cais, bydd angen:

  • eich manylion cyswllt
  • manylion eich plentyn
  • enw ysgol eich plentyn
  • rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)

Gwneud Cais am Brydau Ysgol am Ddim / Grant Hanfodion Ysgol

Camau nesaf

Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau os a phryd y bydd eich plentyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim.

Manylion cyswllt

Os oes genych unrhyw gwestiwn am eich cais neu mae angen help arnoch i wneud cais, gallwch:

Gallwch hefyd gysylltu â’ch ysgol os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os oes angen cymorth arnoch i wneud cais.

Gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Budd-daliadau a Rennir ar 0300 456 3559 neu e-bostiwch benefits@monmouthshire.gov.uk