Mae’r dudalen hon yn ymwneud â sut y gallwch gymryd rhan yn y gwaith yr ydym yn ei wneud.
Mae’n hanfodol eich bod yn rhoi eich cyfraniad er mwyn i bob un ohonom weithio tuag at wneud bywyd yn Sir Fynwy yn dda am y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.
Wrth gwrs, dylech roi gwybod i ni am unrhyw beth sy’n bwysig i chi – mae’r dudalen hon yn cynnwys rhai ffyrdd i gysylltu â ni a chysylltiadau i brosiectau mawr cyfredol yr ydym yn credu y byddwch yn awyddus gwybod mwy amdanynt.
Prosiectau mawr – cyfredol
Dyma wybodaeth am y pethau yr ydym yn gweithio arnynt – gadewch i ni wybod beth yw eich barn.
Prosiectau mawr – a gwblhawyd
Rhywfaint o’r gwaith sydd eisoes wedi digwydd o amgylch y sir.
Cyfryngau cymdeithasu
Os hoffech roi gwybod i ni am eich barn trwy ddefnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasu fel Facebook a Twitter, yna mae hynny’n wych.
Os oes gennych ragor i’w ddweud ar eich blog neu wefan, neu os oes gennych fideo yr hoffech i ni ei weld, yna gallwch eu rhannu gyda ni ar un o’n rhwydweithiau.
Mae rhestr o ffyrdd ar ein blog i gysylltu â ni ar-lein.
Pobl
Mae gennym adran ar y wefan hon yr ydym yn ei datblygu’n barhaus sy’n dangos i chi pwy sy’n gwneud beth yn y cyngor ac sy’n cynnwys manylion cyswllt ein staff a chynghorwyr.
Mae’n hadran digwyddiadau ar y wefan hon hefyd yn cynnwys manylion am gyfarfodydd, clybiau a phethau eraill sy’n digwydd lle y gallech ddod o hyd i bobl i gysylltu â hwy.
Y wefan hon
Os oes gennych unrhyw adborth am y wefan hon – fel gwybodaeth yr hoffech ei gweld, rhwystredigaethau gyda’r ffordd y mae’n gweithio, neu beth bynnag yr ydych yn ei feddwl – byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.
Mae pob tudalen yn caniatâu i chi roi gwybod i ni am eich barn a gallwch gael eich dweud hefyd trwy anfon e-bost at webteam@monmouthshire.gov.uk