Mae’r dudalen hon yn ymwneud â’r hyn y mae ein tîm cefn gwlad yn ei wneud yn Sir Fynwy ac yn darparu dolenni i wybodaeth am fioamrywiaeth, hawliau tramwy cyhoeddus a meysydd eraill o ddiddordeb.
Yr hyn rydym yn ei wneud
Mae ein tîm cefn gwlad yn gweithio i gynnal ansawdd ac amrywiaeth cefn gwlad Sir Fynwy. Rydym yn hyrwyddo mynediad cyfrifol i ardaloedd cefn gwlad gan bawb. Rydym yn cefnogi partneriaethau cefn gwlad ac amgylcheddol, gan gynnwys AHNE Dyffryn Gwy.
Rydym yn darparu llawer o wasanaethau cefn gwlad, gan gynnwys rheoli hawliau tramwy cyhoeddus, mynediad i ardaloedd cefn gwlad ac arfordirol, a safleodd a chyfleusterau cefn gwlad i ymwelwyr. Rydym yn diogelu coed a gwrychoedd ac yn gwarchod a gwella bioamrywiaeth a’r dirwedd. Rydym hefyd yn darparu rhaglen gweithgareddau, digwyddiadau ac addysg. Ceir mwy o fanylion trwy glicio ar y dolenni isod.
Gwybodaeth cefn gwlad
- Mynediad cefn gwlad
- Bioamrywiaeth
- Lleoedd i ymweld â hwy
- Diogelu coed a gwrychoedd
- Fforwm Mynediad Lleol
- Seilwaith Gwyrdd
Cysylltiadau
E-bost: countryside@monmouthshire.gov.uk
Defnyddiwch y ffurflen isod i roi gwybod am fater am Farn Glaswellt