Mae Cyngor Sir Fynwy heddiw wedi derbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru o arian ychwanegol fel rhan o’r trefniadau terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. (2025/26).
Mae’r arian newydd wedi cael ei groesawu gan Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor, a Cyng. Ben Callard, Aelod Cabinet dros Adnoddau. Mae’r fargen yn cydnabod cymhlethdod a heriau darparu gwasanaethau lleol hanfodol i drigolion.
Fel rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ddoe, gwnaed £70 miliwn pellach mewn grantiau penodol ar gyfer cyfrifoldebau llywodraeth leol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth pellach ar gyfer gofal cymdeithasol i dargedu achosion o oedi wrth ryddhau o’r ysbyty, ac ar gyfer gofal plant i gefnogi rhaglen Dechrau’n Deg ledled Cymru.
Bydd y cymorth ychwanegol yn sicrhau y gellir rheoli’r pwysau a wynebir yn fwy llwyddiannus.
Fodd bynnag, mae’r cynnydd arfaethedig mewn cyllid craidd yn dal i fod yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 4.5%.
Bydd hyn yn golygu y bydd angen gwneud rhai dewisiadau anodd pellach i fantoli’r gyllideb derfynol ar gyfer 2025/26.
Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion y gyllideb ddrafft i ben yfory (22ain Chwefror). Mae trigolion, busnesau a sefydliadau partner yn dal i gael cyfle i rannu eu barn ar y cynigion yma: Dweud eich dweud: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/cynigion-cyllideb-2025-26
Dywedodd y Cyng. Brocklesby: “Rwy’n falch bod ein trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth Cymru wedi arwain at gynnydd a chefnogaeth benodol bellach yn cael eu cytuno fel rhan o’r setliad terfynol.
“Mae gennym ni heriau penodol wrth ddarparu gwasanaethau lleol mewn sir mor amrywiol, ond bydd y cynnydd hwn mewn cyllid yn mynd ymhell tuag at allu parhau i amddiffyn aelodau mwyaf bregus ein cymuned ac i ni barhau i gadw’n driw i’n hegwyddorion, y mae ein trigolion wedi’u cymeradwyo.”
Bydd cyllideb derfynol Sir Fynwy yn cael ei hystyried gan y Cabinet mewn cyfarfod ar y 5ed o Fawrth, gyda chymeradwyaeth derfynol i fod i ddigwydd yng nghyfarfod llawn y Cyngor ar y 6ed o Fawrth.