Mae Cyngor Sir Fynwy wedi llwyddo i erlyn un o drigolion Casnewydd am dipio anghyfreithlon ym Magwyr tra hefyd yn gweithredu heb drwydded cludo gwastraff briodol.
Plediodd Mr Barla Price yn euog i’r troseddau ac ymddangosodd yn Llys Ynadon Casnewydd ar 12fed Chwefror 2025 i’w ddedfrydu. Rhoddodd yr ynadon ddedfryd o 18 wythnos dan glo, wedi’i gohirio am 12 mis, a gorchmynnodd Mr Price i dalu costau o fwy na £1,700.
Tipio anghyfreithlon yw gadael unrhyw wastraff yn anghyfreithlon ar dir. Gall tipio anghyfreithlon fod yn beryglus, gan lygru tir a dyfrffyrdd, gan gostio symiau sylweddol i drethdalwyr i’w clirio. Os cewch eich dal, gallwch gael eich erlyn. Y gosb uchaf am dipio anghyfreithlon yw dirwy o £50,000 a/neu bum mlynedd o garchar.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Sir Angela Sandles, “Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol. Mae’n achosi blerwch sylweddol, yn niweidio’r amgylchedd a chostau glanhau sylweddol iawn.
“Mae angen i ni i gyd fod yn ymwybodol o’n dyletswydd gofal i sicrhau ein bod yn defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig wrth drefnu i wastraff gormodol gael ei symud o’n cartrefi; os na wnewch chi, gallech gael eich dirwyo neu eich erlyn. Cofiwch:
G – gwiriwch – (ar gyfer cludwr gwastraff cofrestredig)
C – cofnodwch (i ble mae’ch gwastraff yn mynd)
R =ecord (gwneuthuriad a chofrestriad cerbyd dan sylw)
T = tystiolaeth (gofynnwch am dderbynneb ar gyfer eich cofnodion)”
Mae rhestr o gludwyr gwastraff cofrestredig i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/check-for-a-permit-licence-or-exemption/?lang=cy. Os oes gennych unrhyw amheuon, ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.
Gall trigolion yn Sir Fynwy sydd am roi gwybod am dipio anghyfreithlon wneud hynny drwy wefan y Cyngor: www.monmouthshire.gov.uk/cy/sbwriel-tipio-anghyfreithlon-a-glanhau-strydoedd/