Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r terfynau cyflymder 20mya ar draws y Sir, yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i gasglu adborth trigolion a darparu canllawiau ‘eithriadau 30mya’ newydd yn 2024.

Roedd y Cyngor wedi cymryd rhan yng ngham cyntaf y rhaglen 20mya yn 2022-3, gyda rhai ffyrdd yn y Fenni ac ardal Glannau Hafren wedi’u cynnwys fel dau o’r wyth prosiect peilot cenedlaethol.

Roeddwn cymryd rhan yn y cynllun peilot ein helpu i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol yn 2023. Gwnaethom gydnabod bod y ffordd y caiff pob ffordd leol ei defnyddio yn wahanol, a gwnaethom adolygu pob un gyda Chynghorwyr lleol cyn gwneud penderfyniadau o fewn cwmpas y canllawiau eithriadau gwreiddiol gan Lywodraeth Cymru. Gwnaethom hefyd ddiwygio rhai ffyrdd yn y peilot, gan gynnwys newidiadau i’r B4245 a Heol Cil-y-coed wrth iddynt fynd yn ôl i 30mya yn dilyn adborth.

Cafwyd 1,496 o ymatebion gan drigolion i gais y Cyngor am adborth. Amlygodd yr adborth 143 o ffyrdd lle teimlai rhai trigolion y byddai dychwelyd i’r terfyn cyflymder 30mya yn fwy priodol. Ar ôl cynnal dadansoddiad, dewiswyd pedair ffordd i’w hailasesu: B4245 trwy Fagwyr, Gwndy, Rogiet, a Chil-y-coed; Heol Henffordd, Y Fenni; A4143, Y Fenni; a’r A4077 Heol y Fenni a Chae Meldon, Gilwern.

Ar ôl ailasesu’r ffyrdd a nodwyd yn erbyn y canllawiau 30mya sydd wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru, sy’n ailadrodd pwysigrwydd darparu amgylchedd diogel i ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed fel cerddwyr a beicwyr, gan ystyried hefyd y swyddogaeth symud a nodweddion ffyrdd, mae’r Cyngor wedi dod i’r casgliad nad oes angen unrhyw newidiadau pellach, ac y dylai’r holl ffyrdd sydd wedi’u gosod ar 20mya ar hyn o bryd aros.

I ddysgu mwy am yr ailasesiad, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/terfynau-cyflymder-20mya/

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i roi adborth yn ystod yr adolygiad. Prif flaenoriaeth y Cyngor yw diogelwch ein holl drigolion ac ymwelwyr. Daeth yr ailasesiad i’r casgliad y bydd yr holl ffyrdd a newidiwyd i derfyn cyflymder o 20mya yn aros ar y terfyn hwnnw.”

Mae’n bwysig nodi na chafodd sylwadau’n ymwneud â’r polisi cyffredinol neu Gefnffyrdd eu hystyried, gan mai materion i Lywodraeth Cymru yw’r rhain.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cwestiynau Cyffredin diweddaraf ynghylch Terfynau Cyflymder 20mya gan Lywodraeth Cymru, ewch i  https://www.llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya-cwestiynau-cyffredin?_gl=1*1s80ju2*_ga*MTUxNTA1ODcyLjE3MTk3MzE2NTU.*_ga_L1471V4N02*MTczOTc3ODY0NC44NS4wLjE3Mzk3Nzg2NDQuMC4wLjA.