Skip to Main Content

Mae cartref gofal o’r radd flaenaf Cyngor Sir Fynwy yng Nghil-y-coed wedi ennill Gwobr fawreddog RIBA MacEwen 2025.

Mae’r wobr yn ddathliad o bensaernïaeth sydd er lles pawb – yn dathlu prosiectau sy’n dangos parodrwydd y pensaer a’r cleient i wthio ymylon dylunio ac ymarferoldeb.

Wedi’i ddylunio gan Pentan Architects a’i adeiladu gan Lovell, agorodd y cartref gofal ei ddrysau ym mis Mawrth 2024. Cafodd ei ariannu drwy  bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, a hynny drwy Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Tai â Gofal.

Gan weithio’n agos gyda’r penseiri a’r datblygwyr, chwaraeodd Colin Richings, Rheolwr Gwasanaeth Integredig Cyngor Sir Fynwy, rôl hanfodol wrth ddatblygu’r cartref gofal. Drwy gydol datblygiad saith mlynedd Parc Severn View, roedd ei athroniaeth yn gyson: caniatáu i bobl fyw yn dda gyda dementia. Arweiniodd hyn at greu cartref ag ymdeimlad o gynefindra i’r holl breswylwyr.

Nod cynllun y cartref gofal yw cefnogi pobl â dementia. Mae drysau blaen yn agor yn uniongyrchol i’r mannau byw, gan hyrwyddo ymdeimlad o gysur, yn wahanol i’r ddesg dderbynfa arferol a gosodiadau swyddfa. Gyda phedwar preswylfa, pob un yn gartref i wyth o breswylwyr, mae’r cartref gofal wedi’i ganoli o amgylch neuadd bentref newydd ar gyfer y gymuned dai newydd, gyda gerddi a rhandiroedd yn creu mannau a rennir i bawb.


Wedi’i leoli ar ddatblygiad tai newydd Heol Crug, mae Cartref Gofal Parc Severn View yn cynnal cysylltiadau â’r gymuned gyfagos. Wrth greu cyfleoedd i drigolion trwy ddigwyddiadau a mannau a rennir, gall trigolion gynnal ymdeimlad o hunaniaeth a chynhwysiant personol.

Ynghyd â’r dyluniad arloesol, mae’r cartref gofal ar flaen y gad o ran datblygu arferion gorau mewn gofal. Drwy gydol y dydd, mae’r staff yn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler: “Mae Cartref Gofal Parc Severn View ar flaen y gad o ran gofal. Diolch i Pentan Architects a Lovell, mae’r cartref yn rhoi cyfle gwych i staff arloesi sut mae gofal yn cael ei ddarparu. Mae’r cartref gofal yn gaffaeliad go iawn o fewn ein portffolio gofal cymdeithasol; ynghyd â’i ddyluniad gwych, mae staff yn gwneud hwn yn gartref byw sy’n gysylltiedig â’r gymuned go iawn ar gyfer y gymuned.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Pan oeddwn wedi ymweld â Chartref Parc Severn View y llynedd, gwnaeth y gwaith a wnaed i greu gofod mor hardd i ddarparu byw’n annibynnol a gofal dementia arbenigol yn y gymuned argraff fawr arnaf. Mae’n wych gweld y cartref gofal arloesol hwn yn cael cydnabyddiaeth mor fawreddog ac rwyf mor falch ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect drwy ein Cronfa Gofal Integredig a’n Cronfa Tai â Gofal.”

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Chadeirydd BIPAB, Ann Lloyd, “Rydym yn ddiolchgar am y cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi gwneud y cynllun darpariaeth dementia blaenllaw hwn yn realiti, nid yn unig fel esiampl i Went ond hefyd o ran rhannu arferion gorau ledled Cymru. Gyda’n gilydd, mewn partneriaeth, rydym wedi gweithio ar y cyd â chymunedau, sefydliadau ac arbenigwyr i sicrhau newid parhaol, ystyrlon, i’r rhai yr effeithir arnynt gan ddementia. Llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect hwn.”