Yn ystod Cyllideb yr Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU estyniad i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, gyda dyraniad llai o £902 miliwn.
Bydd Cyngor Sir Fynwy, fel pob awdurdod lleol ar draws y DU, yn wynebu gostyngiad yn ei Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 2025-26. Yn benodol, mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweld gostyngiad o 46% mewn cyllid ers 2024-25, gan effeithio’n sylweddol ar yr holl sefydliadau a phrosiectau a gefnogir gan y gronfa.
Yn sgil y gostyngiad hwn yn y cyllid, ni fydd lefel bresennol y cymorth ariannol ar gyfer Together Works yng Nghil-y-coed yn bosibl ar gyfer 2025-26. Dyrennir y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn flynyddol, a chaiff achosion busnes eu hasesu gan Bartneriaeth Pobl a Lle Sir Fynwy.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (CMGG) i sicrhau’r cyllid angenrheidiol i reoli’r trawsnewid tuag at sicrhau mynediad parhaus i grwpiau cymunedol yn absenoldeb cyllid y GFfG. Gall Cyngor Sir Fynwy a CMGG gadarnhau y bydd £46,000 ar gael yn ystod 2025-26 i gynorthwyo gyda’r gwaith trawsnewid i fodel busnes hunangynhaliol ar gyfer y dyfodol.
Mae CSF a CMGG yn archwilio opsiynau i sicrhau y bydd yr adeilad yn parhau i fod ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol presennol ac yn y dyfodol. Adlewyrchir yr ysbryd cymunedol bywiog yng Nghil-y-coed yn y grwpiau niferus a gefnogir yn weithredol ledled y dref. Mae’r Cyngor a CMGG wedi ymrwymo i helpu’r grwpiau cymunedol hyn a byddant yn ymdrechu i ddarparu’r cymorth gorau posibl yn ystod y cyfnod trosiannol hwn i unrhyw grwpiau yr effeithir arnynt gan y canlyniad hwn.

