Rydym yn cydnabod cryfder y teimladau y mae trigolion wedi’u mynegi ynglŷn â dyfodol Llyfrgell a Hyb Trefynwy, ac rydym am roi sicrwydd iddynt nad oes unrhyw gynlluniau i’w symud allan o Neuadd Rolls. Yn anffodus, yr wythnos diwethaf, creodd yr arolwg defnyddwyr a gynhaliwyd yn y Llyfrgell a’r Neuadd Sirol argraff gamarweiniol bod cynnig cadarn i symud y llyfrgell a’r hyb. Nid yw hyn yn wir, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw bryder a achowyd.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn bwrw ymlaen gyda chais am grant i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi datblygiad cyfleuster cymunedol diwylliannol cwbl hygyrch ac atyniad ymwelwyr sy’n integreiddio’r amgueddfa fel rhan o’r Neuadd Sirol. Nod y fenter hon yw sicrhau cynaliadwyedd hirdymor arlwy diwylliannol a threftadaeth Trefynwy.