Mae Cyngor Sir Fynwy wrthi’n ymgysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch y gwaith angenrheidiol i ailagor Pont Inglis yn Nhrefynwy.
Ers 13eg Medi 2024, mae Pont Inglis wedi bod ar gau i gerddwyr yn dilyn arolwg a gynhaliwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, a ddangosodd nad yw’r bont yn ddiogel ar gyfer mynediad cyhoeddus.
Mae Pont Inglis, sy’n eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn gyswllt hanfodol i gerddwyr a defnyddwyr dyfeisiau olwynion yng nghymuned Trefynwy.
Yn dilyn cais gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i’r Cyngor, cyhoeddwyd Hysbysiad Cau Brys ar gyfer y bont tra bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn archwilio opsiynau ar gyfer gwneud y gwaith gofynnol i’w hailagor. Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro wedi’i gyhoeddi am chwe mis, yn weithredol o’r 2ail Hydref 2024.
Os na cheir penderfyniad erbyn 2ail Ebrill 2025, mae’n bosibl y bydd yna gais am estyniad nes bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cwblhau’r gwaith angenrheidiol i wneud y bont yn ddiogel at ddefnydd y cyhoedd.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn ynglŷn ag ailagor y bont ac mae’n parhau i wthio’r sefydliad i ddod o hyd i ateb.
Ar 1af Tachwedd 2024, ysgrifennodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brockelsby, at y Weinyddiaeth Amddiffyn i fynegi siom y Cyngor ynghylch y diffyg cynnydd o ran ail-agor y bont. Nid yw’r Cyngor wedi derbyn unrhyw gadarnhad ynglŷn ag amserlen ar gyfer dechrau’r y gwaith.
Mae copi o’r llythyr ar gael yma: www.monmouthshire.gov.uk/cy/2024/11/arweinydd-y-cyngor-yn-galw-am-weithredu-ynghylch-pont-inglis/.
Mae’r Cyngor yn deall pryderon y trigolion sydd wedi eu heffeithio gan hyn ac yn parhau i geisio eglurder trwy gynnal deialog barhaus am y gwaith angenrheidiol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Rydym ni, fel Cyngor, ynghyd â thrigolion Trefynwy, yn rhwystredig gyda’r cynnydd sy’n cael ei wneud gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae aelodau etholedig a swyddogion CSF yn parhau i ymgysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddod o hyd i ateb ar gyfer ailagor y bont.”
“Fel perchnogion Pont Inglis, y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n gyfrifol am sicrhau bod y bont hanesyddol hon sy’n cael llawer o ddefnydd yn cael ei gwneud yn ddiogel ac yn cael ei hailagor.”
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae’r hawl tramwy cyhoeddus hwn yn gyswllt hanfodol i drigolion Trefynwy i gael mynediad i fannau gwyrdd ac amwynderau lleol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl.”