Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill yn Ysgol Gymraeg y Fenni wrth i’r ysgol baratoi i symud i safle newydd yn hen Ysgol Gynradd Deri View ym mis Medi 2025.
Mae’r adleoli hwn yn gyfnod newydd cyffrous i’r ysgol ac yn cynyddu ei chapasiti i 420 o ddisgyblion ochr yn ochr â’r Feithrinfa sydd â 60 lle.
Mae’r safle newydd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol addysg Gymraeg yn Y Fenni a Sir Fynwy. Mae’n cyd-fynd â nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Fel Cyngor, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ac rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y plant sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir Fynwy, “Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi’r cyfnod pontio hwn i Ysgol Gymraeg Y Fenni. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau yn Y Fenni, gan ddangos y diddordeb cynyddol yn y Fenni mewn Addysg Gymraeg.”
O fis Medi 2025, bydd Ysgol Gymraeg Y Fenni yn gallu cynnig cynyddu ei darpariaeth, ac edrychwn ymlaen at ddyfodol yr ysgol.”
Mae modd darganfod mwy am Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Sir Fynwy: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/addysg-cyfrwng-cymraeg-2/
Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 1af Medi 2020 a’r 31ain Awst 2021, mae’n gymwys i ddechrau yn y Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2025. Mae’r broses dderbyn yn fyw ar hyn o bryd i chi wneud cais. I ddarganfod mwy, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol-gynradd/.
Bydd y broses ymgeisio yn cau am 5pm ar 9fed Ionawr 2025. Application process closes on at 5pm, 9 January 2025.