Darparydd Gwasanaeth Prydau
Rydym yn chwilio am berson i ymgymryd â’r rôl fel Darparydd Gwasanaeth Prydau
yn Nhepo Rhaglan. Yn darparu prydau bwyd poeth neu wedi rhewi i Ddefnyddwyr
Gwasanaeth sydd ag anghenion wedi eu hasesu. Yn gwasanaethu Sir Fynwy gyfan,
365 diwrnod y flwyddyn er mwyn hyrwyddo annibyniaeth.
Mae angen cymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2 CIEH ar gyfer y rôl hon; fodd bynnag,
nid yw’n hanfodol gan y byddwn yn cynnig hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Cyfeirnod Swydd: SCS210
Gradd: BAND D SCP 9 £26,409.00 – SCP 13 £28,163.00 Pro Rata
Oriau: 4.00 awr y diwrnod; gweithio 4 pedwar diwrnod ac yna 4 diwrnod i ffwrdd o’r gwaith ar rota
Lleoliad: Depo Rhaglan
Dyddiad Cau: 03/01/2025 12:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Mae angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd