Skip to Main Content

Mae tipiwr sbwriel anghyfreithlon cyfresol wedi cael dedfryd o garchar wedi’i gohirio yn dilyn camau gweithredu gan dri chyngor o Went.

oedd Stewart Evans, o Gasnewydd, wedi pledio’n euog i ddeuddeg cyhuddiad o dipio anghyfreithlon rhwng Ionawr 2023 a Mai 2024. Yn flaenorol, cafwyd Evans yn euog o droseddau tipio anghyfreithlon yn 2022, ac ar ôl hynny collodd ei drwydded cludwr gwastraff.

Arweiniodd Cyngor Dinas Casnewydd ymgyrch i fynd ar ôl troseddau Mr Evans ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Sir Fynwy, a oedd yn cynnwys:

  • Dympio gwastraff y cartref ac oergell-rhewgelloedd yng nghoedwig Coed-Gwent
  • Dympio sympiau mawr o wastraff y cartref mewn lleoliadau yn New Inn, Abersychan, Mynydd Pwll Du, a Chanolfan Siopa Ringland.
  • Dympio gwastraff yn Brangwyn Crescent, Casnewydd 
  • Dympio gwastraff mewn bin gwastraff masnachol yng Nghaerllion. 

Roedd Mr Evans yn defnyddio ei broffil Facebook personol i hysbysebu ei fusnes, lle roedd yn codi rhwng £50-£200 am bob symud, cyn gollwng gwastraff yn anghyfreithlon yn y lleoliadau hynny. 

Cafodd Mr Evans fechnïaeth amodol gan farnwr mewn gwrandawiad ar yr achos ar 13 Medi. Fel rhan o amodau ei fechnïaeth, roedd yn ofynnol i Mr Evans beidio â chludo unrhyw wastraff rheoledig. 

Canfuwyd wedyn bod Mr Evans yn hysbysebu gwasanaethau mynd â gwastraff ar Facebook ychydig wythnosau yn unig ar ôl i’w fechnïaeth gael ei osod.

Gwnaeth y cyngor gais llwyddiannus i Lys y Goron i adolygu amodau mechnïaeth Mr Evans o ganlyniad i hyn.  Cafodd Mr Evans ei gadw yn y ddalfa ar 4 Hydref i aros am ei ddedfryd 

Yn ei wrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, cafodd Mr Evans ddedfryd o 30 wythnos o garchar, wedi’i gohirio am 18 mis.

Cafodd orchymyn i wneud 120 awr o waith di-dâl, talu gordal dioddefwr o £187, a chafodd ei wneud yn destun gorchymyn ymddygiad troseddol interim. 

Bydd gorchymyn ymddygiad troseddol llawn, yn ogystal â chosbau ariannol a chostau i bob un o’r cynghorau dan sylw, yn cael eu gosod mewn gwrandawiad pellach yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Wrth wneud sylw ar y ddedfryd, dwedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros newid hinsawdd a bioamrywiaeth: “Rwy’n falch iawn bod y camau gweithredu ar y cyd gyda chydweithwyr yn Sir Fynwy a Thorfaen wedi arwain at erlyniad llwyddiannus.

“Does dim lle i dipio anghyfreithlon yn ein cymunedau, ac mae erlyniadau fel hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r mater. 

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n talu am gael gwared ar wastraff i sicrhau eu bod wedi ceisio gwasanaethau cludydd gwastraff trwyddedig.  Mae hyn yn lleihau’r risg y bydd eich gwastraff yn cael ei dipio yn anghyfreithlon.”

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, aelod gweithredol dros yr amgylchedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: “Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd amgylcheddol ddifrifol ac yn costio swm sylweddol i drethdalwyr i’w lanhau. Mae nid yn unig yn edrych yn hyll, ond gall fod yn beryglus, yn enwedig i blant ac anifeiliaid, a chaiff effaith andwyol ar ein hamgylchedd.

“Mae’r achos hwn yn dangos nad ydym ni na’n cynghorau cyfagos yn goddef tipio anghyfreithlon a byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai y canfuwyd eu bod yn gyfrifol.

“Rwy’n gobeithio bod yr erlyniad hwn yn anfon neges glir y gall y rhai sy’n ymddwyn mor anghyfrifol wynebu canlyniadau difrifol.

“Hoffwn ddiolch am waith caled ac ymroddiad y swyddogion a fu’n ymwneud â dod â’r achos hwn gerbron y llysoedd a sicrhau canlyniad llwyddiannus.”

Dwedodd aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros gydraddoldeb ac ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles:  “Does gan dipio anghyfreithlon ddim lle yn ein cymuned. Drwy ein hymdrechion cydweithredol gyda chynghorau Casnewydd a Thorfaen, rydym wedi dangos bod yna ganlyniadau i’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr arfer hwn. 

“Os ydych chi’n gwybod am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon yn eich ardal chi, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n tîm iechyd yr amgylchedd.” 

“Os ydych chi’n llogi cwmni i waredu gwastraff ar eich rhan, gwnewch yn siŵr eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig.  Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio eu cofrestriad, felly gofynnwch bob amser am eu tystysgrif.” 

Gall preswylwyr sy’n dymuno adrodd am dipio anghyfreithlon yn eu hardal wneud hynny drwy wefan eu cyngor: 

Sir Fynwy- https://www.monmouthshire.gov.uk/litter-fly-tipping-and-strehttps://www.monmouthshire.gov.uk/cy/sbwriel-tipio-anghyfreithlon-a-glanhau-strydoedd 

Casnewydd– https://www.newport.gov.uk/fly-tipping-and-littehttps://www.casnewydd.gov.uk/ailgylchu-gwastraff/tipio-anghyfreithlon-chasglu-sbwriel 

Torfaen – https://www.torfaen.gov.uk/en/RoadsTravelParking/StreetCareandCleaning/Refuse-Fly-Tipping/Fly-tipping.aspxhttps://www.torfaen.gov.uk/cy/RoadsTravelParking/StreetCareandCleaning/Refuse-Fly-Tipping/Fly-tipping.aspx