Skip to Main Content

Cymorth Lles

  • GIG 111 Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen sylw meddygol ar unwaith, neu mewn perygl dybryd, ffoniwch 999 neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys. Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen gofal iechyd meddwl brys, ond nad yw’n peryglu bywyd, ffoniwch GIG 111 a dewiswch Opsiwn 2. Ffôn: 111
  • CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant’ ar Glasoed) Cymorth brys – Ffôn: 01633 749 519
  • Papyrus I bobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad, mae’r sefydliad yn cynnig cymorth, cyngor ac adnoddau. Ffôn: 0800 068 4141
  • Mind Sir Fynwy Staff profiadol sy’n groesawgar a chyfeillgar, yma i’ch helpu yn Sir Fynwy – Ffôn: 01873 858 275
  • Byw Heb Ofn Darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – Llinell Gymorth: 0808 8010800
  • Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy Ffôn: 01291 635669 (yn ystod oriau gwaith); ar ôl 5pm ac ar benwythnosau ffoniwch Dîm Dyletswydd Argyfwng De Ddwyrain Cymru Ffôn: 0800 328 4432.
  • Mae Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac adnoddau hunangymorth i’ch helpu i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles.
  • Mae Chat Health yn ffordd ddiogel a hawdd o siarad ag un
    o’n nyrsys ysgol cymwys. Os ydych rhwng 11 a 19 oed, tecstiwch 07312 263 262
    am gefnogaeth a chyngor cyfrinachol, does dim rhaid i chi roi eich enw hyd yn
    oed.


Yn agos i mi!

Am ddolenni defnyddiol i fanciau bwyd ac oergelloedd cymunedol, i fannau cynnes a phrosiectau cymunedol yn eich ardal chi yn Sir Fynwy, ewch i

Cymorth Costau Byw

Gall unrhyw un syrthio ar ei hôl hi gyda biliau a mynd i ddyled, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ofyn am help a chyngor, efallai y byddwch yn synnu faint y gellir ei wneud i’ch helpu i ddod nôl ar eich traed!

Cymorth Costau Byw – Monmouthshire >

InFaCT –Integreiddio Teuluoedd a Chymunedau

Yma i helpu grymuso teuluoedd. Eich cysylltu chi a’ch teulu gyda gwasanaethau a chyfleoedd yn y gymuned.

Gall InFaCT eich cysylltu chi, eich teulu a’ch plant gyda gwasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd perthnasol o fewn y gymuned. Ein nod yw grymuso teuluoedd drwy ddynodi anghenion a phroblemau ar y cyfle cynharaf, a chryfhau cymunedau drwy gefnogi syniadau newydd a dod â phobl o’r un anian ynghyd.

Rhai enghreifftiau o bethau y gwnaethom helpu gyda nhw yn y flwyddynn ddiwethaf:

  • Gwybodaeth o grwpiau lleol a chyfleoedd, gweithgareddau a hobïau.
  • Bywyd cartref a chyllid, derbyn y budd-daliadau cywir, grantiau, banciau bwyd, talebau bwyd neu oergelloedd cymunedol a help gyda phryderon costau byw.

 infact@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01291 691 330

InFaCT – Monmouthshire

Hyb Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir Fynwy

Dewch i fwrw golwg ar ein llyfryn newydd, Cymorth Ariannol i Deuluoedd Sir Fynwy. Y cymorth sydd ar gael adech eich beichiogrwydd ac yna drwy’r blynyddoedd ysgol.

Lawrlwythwch PDF

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw un o’r ffrydiau ariannu hyn, e-bostiwch.

Ffôn: 01633 644527

E-bost: childcare@monmouthshire.gov.uk 

Hyb Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant – Sir Fynwy

Gwasanaeth Ieuenctid – MonLife

Ni yw Tîm Ieuenctid a Chymunedol MonLife, sy’n cynnwys Tîm Gwasanaeth Ieuenctid a Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy. Rydym yma i helpu pobl ifanc ledled Sir Fynwy i gwrdd â ffrindiau, archwilio diddordebau, cael gafael ar gymorth, a thyfu fel unigolion cyflawn.

Ein Canolfannau Ieuenctid:

  • Yr Attik, Canolfan Ieuenctid Trefynwy, Stryd Whitecross, Trefynwy, NP25 3XR
  • Y Caban, Canolfan Ieuenctid y Fenni, Hen Heol Henffordd, Y Fenni, NP7 6EL
  • Y Pafiliwn, Pafiliwn Thornwell, Bulwark, Cas-gwent, NP16 5TQ
  • Y Parth, Canolfan Ieuenctid Cil-y-coed, 1 Chepstow Road, Cil-y-coed, NP26 4XY

I gael rhagor o wybodaeth am ein canolfannau ieuenctid neu unrhyw un o’r grwpiau neu’r cymorth y gall staff ein canolfan ei gynnig, cysylltwch â ni fel isod:

E-bost: youth@monmouthshire.gov.uk.

Gwasanaeth Ieuenctid – Monlife