Bydd Cyngor Sir Fynwy yn nodi 1,000 diwrnod ers yr ymosodiad ar Wcráin, drwy ymuno’n falch gyda’r genedl mewn undod i #SefyllGydaWcráin i anrhydeddu dewrder a gwytnwch y rhai sydd bellach yn galw Sir Fynwy yn gartref iddynt.
Mae’r ymosodiad, a ddechreuodd 1,000 diwrnod yn ôl ar 19 Tachwedd, wedi dod â heriau enfawr i deuluoedd Wcráin.
Bydd Cyngor Sir Fynwy hefyd yn defnyddio’r amser i fwrw i gof yr ysbryd cymunedol dwfn iawn a ddaeth i’r amlwg mewn ymateb.
Mae Cyngor Sir Fynwy, gan gydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yr Adran Gwaith a Phensiynau a nifer fawr o gyrff trydydd sector a gwirfoddol wedi rhoi cefnogaeth ddi-ildio i deuluoedd o Wcráin y bu’n rhaid iddynt adael eu cartrefi a cheisio lloches rhag y gwrthdaro.
Drwy ymdrech gydlynus gan y gymuned, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal a chefnogi hyd at 250 o ddinasyddion Wcráin ar y tro mewn Canolfan Groeso neilltuol. Mae’r cynllun hwn yn dangos nerth ac ymroddiad asiantaethau lleol a hefyd bartneriaid yn y gymuned i wneud Sir Fynwy yn lle croesawgar ar gyfer rhai mewn angen.
Drwy Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru, agorodd cannoedd o deuluoedd yn Sir Fynwy eu drysau a darparu cartrefi ar gyfer teuluoedd o Wcráin, gan ddangos ymdeimlad gwirioneddol o drugaredd a chefnogaeth.
Yn ychwanegol, bu gan Dîm Cymorth i Wcráin Cyngor Sir Fynwy rôl hanfodol wrth helpu mwy na 100 o deuluoedd i ymgartrefu mewn tai annibynnol o fewn y sir, gan sicrhau fod ganddynt yr adnoddau a’r cymorth y maent eu hangen i ailadeiladu eu bywydau a ffynnu yn eu cymunedau newydd.
Dywedodd y Cyng Mary Anne Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Hoffwn ddiolch i bawb a agorodd eu calonnau yn ystod y 1,000 diwrnod diwethaf ac rwy’n ailgadarnhau fod Cyngor Sir Fynwy yn parhau’n gadarn yn ei undod gyda phobl Wcrain.”
Dywedodd y Cyng Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’n amhosibl gorbwysleisio gwytnwch anhygoel pobl Wcráin a haelioni cymuned Sir Fynwy, a ddaeth ynghyd i greu effeithiau ystyrlon a chadarnhaol ar fywydau’r rhai y mae gwrthdaro wedi taro arnynt.
“Mae’r gefnogaeth a roddwyd gan breswylwyr Sir Fynwy wedi trawsnewid bywydau, gan alluogi unigolion a theuluoedd a gafodd eu dadleoli i ganfod diogelwch ac ymdeimlad newydd o berthyn.”
I gael mwy o wybodaeth ar sut i gefnogi pobl Wcráin, ewch i
monmouthshire.gov.uk/support-ukraine/
Tags: Monmouthshire, news