Mae Cyngor Sir Fynwy yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) ar gyfer y cyfnod rhwng 2018 a 2033. Bydd y CDLlN yn dyrannu tir ar gyfer datblygu cynaliadwy, yn dynodi tir i’w amddiffyn ac yn cynnwys polisïau i ddarparu sail ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
Beth mae hyn yn ei olygu i fy ardal i?
Dweud eich Dweud
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor o Ddydd Llun 4ydd Tachwedd a bydd yn cau ar Ddydd Gwener 16eg Rhagfyr.
Digwyddiadau ymgysylltu
Digwyddiadau Ymgysylltu Galw Heibio Mewn Person
Lleoliad | Dyddiad | Amser |
---|---|---|
Canolfan Gymunedol Hen Ysgol Eglwys Rhaglan, Chepstow Road, Rhaglan | Dydd Mawrth 12fed Tachwedd 2024 | 2pm – 7pm |
Neuadd Farchnad y Fenni, Cross Street, Y Fenni | Dydd Iau 14eg Tachwedd 2024 | 2pm – 7pm |
Hyb Cymunedol Brynbuga, Maryport Street, Brynbuga | Dydd Llun 18fed Tachwedd 2024 | 2pm – 7pm |
Canolfan Palmer, Y Stryd Fawr, Cas-gwent | Dydd Iau 21ain Tachwedd | 2pm – 7pm |
Y Neuadd Sirol, Sgwâr Agincourt, Trefynwy | Dydd Llun 25ain Tachwedd | 2pm – 7pm |
Capel y Bedyddwyr Magwyr, Y Sgwâr, Magwyr | Dydd Mercher 27ain Tachwedd 2024 | 2pm – 7pm |
Neuadd Hamdden Porth Sgiwed, Manor Way, Porth Sgiwed | Dydd Gwener 29ain Tachwedd 2024 | 2pm – 7pm |
Neuadd Bentref Goetre, Newton Road, Penperlleni | Dydd Llun 2il Rhagfyr | 2pm – 7pm |
Adeilad Cyngor Tref Cil-y-coed, Sandy Lane, Cil-y-coed | Dydd Mercher 4ydd Rhagfyr 2024 | 2pm – 7pm |
Digwyddiadau Ymgysylltu Ar-lein
I fynychu ein digwyddiadau ymgysylltu ar-lein mae’n rhaid i chi gofrestru 24 awr cyn i’r digwyddiad ddechrau er mwyn i ni ddanfon y ddolen gywir atoch i ymuno â’r digwyddiad, gallwch gofrestru a chyflwyno cwestiwn o flaen llaw trwy gwblhau’r ffurflen isod
Ar ôl cwblhau’r ffurflen uchod, byddwch yn cael eich e-bostio ar fore’r digwyddiad gyda dolen i ymuno.
Lleoliad | Dyddiad | Amser |
---|---|---|
AR-LEIN – Microsoft Teams | ||
AR-LEIN – Microsoft Teams | Dydd Llun 9fed Rhagfyr 2024 | 6pm – 7.30pm |
Digwyddiad Ymgysylltu Busnesau
Rydym yn gwahodd busnesau lleol i fynychu digwyddiad ymgysylltu busnesau yn Sir Fynwy i ddysgu mwy ac i roi adborth ar y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i fusnesau siarad ag uwch swyddogion cynllunio a’r Cynghorydd Paul Griffiths (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd).
Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen isod
Dyddiad/Amser y digwyddiad: Dydd Gwener 6ed Rhagfyr 2024 (9am-11am) Lleoliad: Parc Busnes Castle Gate, Cil-y-coed NP26 5PU Bydd brecwast ysgafn yn cael ei ddarparu. |