Pennaeth Cynllunio
Mae Cyngor Sir Fynwy am benodi rhywun i arwain ein gwasanaeth cynllunio ar adeg hynod gyffrous. Rydym yn recriwtio Pennaeth Cynllunio newydd gyda chyfrifoldeb am y timau Polisi Cynllunio a Rheoli Datblygu. Rydym yn chwilio am arweinydd deinamig, carismatig sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol i arwain y maes gwasanaeth pwysig hwn sy’n destun cryn gystadleuaeth. Fel Cynlluniwr Tref Siartredig, byddwch yn gweithredu fel cynghorydd proffesiynol i’r Cyngor, gan helpu i sicrhau bod cynllunio yn cyfrannu’n llawn at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cymunedau Sir Fynwy. Byddwch yn chwarae rhan arweiniol mewn cynlluniau datblygu mawr ac ymgysylltu â’r cyhoedd a byddwch yn cynrychioli’r Cyngor mewn partneriaethau ac mewn fforymau cenedlaethol/rhanbarthol. Byddwch yn ysgogi, yn grymuso ac yn datblygu sgiliau tîm cyfeillgar a gweithgar yn ogystal â chwarae rhan ragweithiol mewn ymgysylltu â’r gymuned i geisio nodi a chefnogi blaenoriaethau lleol a dyheadau adfywio
Cyfeirnod Swydd: PLACE001
Gradd: BAND M: SCP 47 – 51, £55,747 – 60,340
Oriau: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Brynbuga
Dyddiad Cau: 01/11/2024 12:00 pm
Dros dro: No
Gwiriad DBS: No