Skip to Main Content

Mae Busnes Sir Fynwy wedi lansio grant cyfalaf o werth rhwng £5,000 – £10,000 ar gyfer mentrau cymdeithasol yn Sir Fynwy.

Mae ar agor nawr ar gyfer datganiadau o ddiddordeb, mae’r cynllun grant yn cael ei ariannu o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Ei nod yw helpu mentrau cymdeithasol presennol i fuddsoddi mewn offer cyfalaf. 

Gall mentrau cymdeithasol wneud cais am rhwng £5,000 a £10,000 tuag at fuddsoddiad mewn offer a fydd yn eu helpu i dyfu a ffynnu yn Sir Fynwy.

Bellach gellir cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb trwy ffurflen ar-lein i’r rhai a hoffai gael mwy o wybodaeth am y grant: https://formbuilder.evolutive.co.uk/formsite/form/488ff579-a569-4911-8b15-6bf7d1eb1a81?

Bydd ceisiadau’n cau ar 01/11/2024 neu cyn hynny os dyrennir yr holl gyllid.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gynllunio a Datblygu Economaidd:  “I gydnabod y cyfraniad y gallant ei wneud i economi ein sir, mae’r grant hwn yn cael ei gynnig i fentrau cymdeithasol uchelgeisiol sydd angen cymorth i ariannu eu cynlluniau twf. Os ydych yn fenter gymdeithasol gymwys, bresennol yn Sir Fynwy, gwnewch gais.”

Mae’r cynllun grant hwn yn rhan o’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan adran Busnes Sir Fynwy, gwasanaeth Cyngor Sir Fynwy, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU sy’n darparu cymorth ac arweiniad i fusnesau Sir Fynwy, ar unrhyw gam o’u datblygiad gan gynnwys mentrau newydd, rhai ar y cam cyn cychwyn, a mentrau sefydledig.

Am rhagor o wybodaeth am Busnes Sir Fynwy, ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/busnes-a-swyddi/business-monmouthshire/

Tags: , ,