Mae’r cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Amnewid wedi’u cyhoeddi gan Gyngor Sir Fynwy.
Bydd y cynigion yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Lleoedd ar 10fed Hydref.
Ar 24ain Hydref, bydd y cyngor yn ystyried cymeradwyo’r CDLlA fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod Tachwedd a Rhagfyr. Bydd y Cyngor ond yn ystyried a yw’n cytuno i gyflwyno’r cynigion i Lywodraeth Cymru i’w harchwilio ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r cynigion yn dyrannu tir ar gyfer 2,000 o gartrefi pellach yn y Sir dros gyfnod o 15 mlynedd yn ogystal â 48 hectar o dir ar gyfer creu swyddi newydd.
Y cynigion yw y bydd pob cartref newydd yn ddi-garbon net a bydd 50% o’r cartrefi yn fforddiadwy a bydd y rhan fwyaf o’r datblygiad yn canolbwyntio ar ein pedair tref fwyaf, tra’n caniatáu’r datblygiad cyfyngedig sy’n cynnal dyfodol ein pentrefi.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a’r Economi: “Rydym wedi bod yn datblygu’r cynigion hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan weithio gyda chymunedau lleol, busnesau lleol, adeiladwyr tai a thirfeddianwyr. Credaf y bydd y cynigion yn caniatáu i’n Sir ddatblygu mewn modd cynaliadwy – gan ganiatáu i bobl ifanc y gobaith o gael tai fforddiadwy a swyddi yn y Sir.
“Heb y datblygiadau arfaethedig, yn enwedig datblygiad tai fforddiadwy newydd, bydd y Sir yn cael ei dominyddu fwyfwy gan boblogaeth hŷn sydd wedi ymddeol, a heb y bobl iau sydd eu hangen i gefnogi’r busnesau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni i gyd.
“Mae cyfyngiadau ar raddfa’r datblygiad y gellir ei gefnogi gan seilwaith y Sir a dyna pam fod graddfa’r datblygiad arfaethedig tua hanner yr hyn a gytunwyd gan y weinyddiaeth flaenorol yn 2020.
“Rwy’n siŵr y gellir gwella ein cynigion. Bydd Pwyllgor y Cyngor yn craffu a’r Cyngor llawn yn ystyried y cynigion. Bydd chwe wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus yn caniatáu i lawer o faterion gael eu codi gan bobl ledled y Sir.
“Byddwn yn dysgu o’r ddadl gyhoeddus a dim ond wedyn, y gwanwyn nesaf, y gofynnir i’r Cyngor gyflwyno Cynllun Datblygu i’w archwilio gan y cyhoedd.”
Tags: Monmouthshire, news