1af Hydref yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. I nodi’r achlysur, bydd Hyrwyddwr Pobl Hŷn Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Jackie Strong, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y
Cynghorydd Ian Chandler a’r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles, oll yn ymuno â phobl hŷn y gymuned ar daith gerdded o amgylch Cil-y-coed.
Mae gwirfoddolwyr o Eglwys y Santes Fair wedi bod yn cynnal grwpiau cymdeithasol ar ddydd Mawrth a dydd Gwener ers blynyddoedd ac wedi gwahodd Cynghorwyr i ymuno â nhw ar gyfer yr achlysur.
Mae ymchwil yn dangos y gall gwirfoddoli wella cysylltiadau cymdeithasol, gan wella ein hymdeimlad o bwrpas a lles. Er gwaethaf hyn, mae llawer o bobl hŷn yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr holl ffyrdd yr hoffent.
Pwrpas Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yw dathlu’r rôl y mae pobl hŷn yn ei chwarae wrth gryfhau cymunedau ledled y DU, boed fel gweithwyr, gofalwyr, gwirfoddolwyr, gweithredwyr neu gysylltwyr cymunedol.
Cyn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Chandler, “Yn gynharach eleni, fe wnaethom ymrwymo i wneud Sir Fynwy yn gymuned oed-gyfeillgar fel rhan o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o ddinasoedd a chymunedau sy’n oed-gyfeillgar. Mae 49% o boblogaeth Sir Fynwy yn 50+ oed. Mae heddiw yn gyfle i gydnabod a dathlu’r rôl y mae ein poblogaeth hŷn yn eu chwarae, boed hynny yn y gweithlu lleol, cefnogi gweithgareddau gwirfoddol,
fel gweithredwyr neu ddarparu gofal am ddim i’w hanwyliaid, yn oedolion ac yn blant, ac ni fyddai ein cymunedau lleol yr un peth heb ein poblogaeth hŷn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Sandles, “Mae cyflawni Statws Oed-gyfeillgar yn ymwneud â chydnabod yr hyn sydd eisoes yn digwydd o fewn cymunedau ar draws Sir Fynwy, gan ddod ag ef i ffocws mwy craff gyda llygad ar sut i fynd i’r afael â bylchau, yn aml trwy sgyrsiau ystyrlon gyda’n preswylwyr hŷn. Nid yw’n ymwneud o reidrwydd gyda buddsoddiad newydd; mae’n ymwneud â deall sut y gellir gwneud pethau hyd yn oed yn well gyda’r
pwyslais ar anghenion pobl hŷn.”
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio cymunedau sy’n oed-gyfeillgar fel “amgylcheddau sy’n meithrin heneiddio’n iach ac egnïol. Maent yn galluogi pobl hŷn i heneiddio’n ddiogel mewn lle sy’n iawn iddynt, yn rhydd o dlodi, yn parhau i ddatblygu’n bersonol a chyfrannu at eu cymunedau gan gadw annibyniaeth, iechyd ac urddas. Gan mai pobl hŷn sy’n gwybod orau beth sydd ei angen arnynt, maent wrth wraidd unrhyw ymdrech i greu byd sy’n fwy ystyriol o oedran.” Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, ewch i https://ageing-better.org.uk/international-day-older-people-1-october-2024
Tags: Monmouthshire, news