Skip to Main Content

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol, a mentrau cymdeithasol am grantiau i gefnogi prosiectau bwyd cymunedol.

Mae grantiau o hyd at £2,500 ar gael drwy system ymgeisio am grant dwy haen. Mae’r haen isaf ar gyfer grantiau rhwng £0 a £300, tra bod y grantiau haen uwch ar gael am symiau rhwng £301 a £2,500.

Mae’r grantiau ar gyfer prosiectau sy’n digwydd yn Sir Fynwy ac sy’n cael eu harwain gan y gymuned mewn cydweithrediad â busnesau a chynhyrchwyr bwyd lleol.

Mae gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy ddiddordeb arbennig mewn prosiectau a fydd o fudd i unigolion sy’n profi arwahanrwydd cymdeithasol, incwm isel, diweithdra, iechyd gwael, rhwystrau i dai, neu amodau byw gwael. 

Dylai prosiectau hefyd hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Rhaid i brosiectau gyd-fynd ag o leiaf un o’r amcanion canlynol:

  • Mynd i’r afael â thlodi bwyd
  • Mynediad at fwyd iach, maethlon
  • Gweithgareddau addysgol yn ymwneud â bwyd
  • Dod â phobl ynghyd trwy fwyd da
  • Cysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr lleol
  • Hyrwyddo trafodaeth am ddewisiadau bwyd moesegol, cynaliadwy
  • Annog cynhyrchu bwyd cynaliadwy

Derbynnir ceisiadau dros gyfnod o amser. Y cyfnod asesu cyntaf yw rhwng 21ain a’r 31ain Hydref 2024, ar gyfer ceisiadau a dderbynnir ar neu cyn 18fed Hydref. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ar 1af Tachwedd 2024. Yr ail gyfnod asesu rhwng 17eg a’r 28ain Chwefror 2025, ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd ar neu cyn 14eg Chwefror 2025. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ar 3ydd Mawrth 2025.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Bydd Grantiau Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn caniatáu i sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol ddarparu prosiectau o ansawdd uchel yn ein cymunedau lleol. Mae gan Sir Fynwy sîn fwyd ffyniannus, ac mae’r grant hwn yn caniatáu i gymunedau prosiectau i fynd ymhellach eto.

“Gall y grantiau hyn ein helpu ni fel Sir i gymryd camau i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd drwy ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant i’n cymunedau gan ddefnyddio bwyd o ffynonellau lleol. Edrychaf ymlaen at glywed am y prosiectau anhygoel sydd ar y gweill ar draws y sir.”

I wneud cais am y grantiau ac i ddysgu mwy, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyhoeddusrwydd-grantiau-partneriaeth-bwyd-sir-fynwy/

Tags: , ,