Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA) i ddod o hyd i ateb i faterion sy’n deillio o gau Pont Inglis yn Nhrefynwy ar sail diogelwch.
Mae’r bont, sy’n eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn gyswllt pwysig i gerddwyr neu’r sawl sydd ar olwyn neu feic o fewn cymuned Trefynwy.
Mae’r Cyngor yn ymwybodol o bwysigrwydd y llwybr. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau maes o law.
Tags: Monmouth, Monmouthshire, news