Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 Ysgol Gynradd Gilwern
Daeth cyfle cyffrous ar gael i wneud gwahaniaeth go iawn yn Ysgol Gynradd
Gilwern a dod yn rhan o dîm effeithlon iawn.
Edrychwn am ymarferydd sy’n ysbrydoli ac sy’n angerddol am wneud
gwahaniaeth i brofiadau bywyd plant, a all feithrin a grymuso dysgwyr i gyflawni
eu potensial llawn.
Bydd gennych ddisgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad; herio pob plentyn i
gyflawni eu gorau glas. Gyda’ch egni a’ch ymroddiad i fynd yr ‘ail filltir’, byddwch
yn llunio dyfodol ein hysgol mewn cytgord gyda’n ethos a’n gweledigaeth.
Rydych yn credu mewn gwelliant parhaus ar gyfer eich hun fel ffordd o gyflawni’r
gorau oll ar gyfer plant a theuluoedd ein cymuned.
Ein gweledigaeth yn Ysgol Gynradd Gilwern yw ein bod yn ddysgwyr creadigol
sy’n annibynnol, gyda chymhelliant ac yn perthyn i’n cymuned. Bydd eich rôl yma
yn hanfodol i ddod â’r weledigaeth yn fyw. Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3,
bydd eich swydd yn amrywiol a diddorol. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus
fod yn hyblyg, gan weithio ar draws yr ysgol – o gefnogi disgyblion yn y
dosbarth, i weithio gyda nhw mewn grwpiau bach, ar sail un-i-un a llanw dros
oruchwyliaeth pan fo angen.
Cyfeirnod Swydd: L20571031
Gradd: £25,119 – £26,873 pro rata
Oriau: 30 awr yr wythnos
Lleoliad: Ysgol Gynradd Gilwern
Dyddiad Cau: 27/09/2024 12:00 pm
Dros dro: Dros dro tan 31.08.25
Gwiriad DBS: Oes