Skip to Main Content

Agorwyd Cartref Gofal Parc Severn View Cyngor Sir Fynwy, sef cartref gofal o’r radd flaenaf, yn swyddogol ar ddydd Mercher, 18fed Medi, gan Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby.

Mae’r cartref gofal, a groesawodd breswylwyr ym mis Mawrth, yn arloesi sut y darperir gofal drwy ei ddyluniad amgylcheddol pwrpasol ac mae ar flaen y gad o ran datblygu arferion gorau.

Wrth agor y cartref gofal, dywedodd y Cynghorydd Brocklesby: “Rwy’n falch iawn o agor Cartref Gofal Parc Severn View yn swyddogol heddiw. Mae’r cartref wedi dangos bod ffordd newydd o ofalu am bobl â dementia yn bosibl ac yn hynod effeithiol.”

Nod y dyluniad newydd yw creu ymdeimlad o gartref i drigolion, gyda drysau ffrynt yn agor yn syth i’r gofod byw yn hytrach na derbynfa draddodiadol a swyddfeydd. Yn ogystal, mae agwedd newydd at rôl y gweithwyr gofal yn sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd, gan ganiatáu i breswylwyr gynnal ymdeimlad o hunaniaeth a chynhwysiant.

Mae’r cartref gofal wedi’i ganoli o amgylch ‘neuadd bentref’ ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol ac mae’n cynnwys pedwar preswylfa, pob un yn lletya wyth o breswylwyr, gyda gerddi a rhandiroedd a rennir i greu ymdeimlad o gymuned.

Council Leader Cllr Mary Ann Brocklesby and guests in front of the Village Hall at Severn View Park Care Home
Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby a gwesteion o flaen y neuadd pentref yn Cartref Gofal Parc Severn View

Ychwanegodd y Cynghorydd Brocklesby: “Mae’r dyluniad yn galluogi staff i feithrin perthnasoedd cryf gyda’r preswylwyr ac yn meithrin cysylltiadau ymhlith y preswylwyr eu hunain. Bob dydd, gellir gweld preswylwyr a staff yn rhyngweithio ar draws pob cartref, yn paratoi bwyd gyda’i gilydd, neu’n mwynhau’r tywydd yn y gerddi.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal gorau posibl i’n holl drigolion ar draws y  Sir. Mae Cartref Gofal Parc Severn View wedi ailgynllunio sut rydym yn darparu gofal i bobl sy’n byw gyda dementia,  a hynny’n seiliedig ar safonau arfer gorau arloesol, gan ddarparu amgylchedd cartrefol i breswylwyr lle gallant fwynhau gweithgareddau cyfarwydd a bod yn nhw eu hunain.”

Adeiladwyd y cartref gofal newydd gan Lovell a’i ariannu drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent drwy Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Tai â Gofal.

Tags: ,