Tiwtor Multiply
Mae tîm Cyflogaeth a Sgiliau yn dymuno recriwtio tîm bach i weithio mewn lleoliadau cymunedol ac ysgolion ar draws Sir Fynwy. Rydym am glywed gan ymarferwyr gwybodus sydd â phrofiad o weithio o fewn lleoliadau addysg neu gymunedol.
Mae’r tîm Lluosi yn creu rhaglen newydd er mwyn cynnig gweithgareddau dysgu ac addysgu rhagorol, gan ddefnyddio dulliau arloesol tra’n ystyried anghenion y dysgwyr unigol. Bydd y tîm yn ymgysylltu gyda dysgwyr ar draws Sir Fynwy er mwyn cynnig ymyriadau i gefnogi oedolion i oresgyn eu hofn a’u trafferth gyda rhifedd, yn academaidd ac yn ymarferol.
Rydym yn chwilio am unigolion, egnïol, brwdfrydig ac empathetig i ymuno gyda’r rhaglen newydd hon.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd yn medru cwrdd â’r holl ofynion. Os yw eich profiad ychydig yn wahanol i’r hyn sydd wedi ei nodi a’ch bod yn medru dod â gwerth i’r rôl, rydym am glywed mwy amdanoch!
Mae hon yn swydd dymor penodol sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Cyfeirnod Swydd: LYW0011
Gradd: Band H SCP 27-31 £35,745 - £39,186
Oriau: 37 awr
Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga, Sir Fynwy.
Dyddiad Cau: 02/10/2024 12:00 pm
Dros dro: Tan 31ain Mawrth 2025, 37 awr yr wythnos, Amser llawn (Ystod Term Ysgol yn)
Gwiriad DBS: Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.