Skip to Main Content

Cwestiynau ac Atebion – Technoleg Gynorthwyol a Thechnoleg Glyfar

Sut mae gwneud cais am Lifeline a Pendant gan AssistiveTech Sir Fynwy? 

I wneud cais am ein gwasanaeth, mae ffurflen gais hunan-gyfeirio ar-lein ar gael i chi ei llenwi. Ar ôl derbyn hyn, bydd un o’n Swyddog Gosod arbennig yn cysylltu â chi dros y ffôn i drefnu gosod yr offer.
Ffurflen Gais Technoleg Gynorthwyol (office.com)

Mae gen i broblem
dechnegol gyda fy uned Lifeline, gyda phwy ddylwn i gysylltu?  

Yn ystod ein hwythnos waith gallwch gysylltu â’n Swyddog Cyswllt Cwsmeriaid ar Ffôn: 01633 644466 a all gynnig cyngor ac arweiniad i chi.

Os oes gennych broblem ar fin nos neu ar benwythnos, gallwch gysylltu â’r ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid allan o oriau ar: Ffôn: 02920 865367.

Faint yw cost Larwm a Pendant Lifeline?

Mae ffi gosod unigol o £50 gyda ffi monitro wythnosol sy’n dechrau ar £5 yr wythnos.

Ai dim ond tu mewn i’r tŷ mae’r pendant yn gweithio neu a fydd yn gweithio yn yr ardd? 

Mae gan y pendant, sy’n gysylltiedig gyda’ch Lifeline, gwmpas hyd at 50 metr o’r uned felly byddai’n gweithio yn y rhan fwyaf o erddi a thu fewn i’ch eiddo. Os ydych tu fas ac wedi pwyso’r pendant mae’n annhebyg y gall y gweithredwr gyfathrebu gyda chi. Os felly byddai’r gweithredwr yn ffonio eich llinell daear ac os nad oes ateb, bydd yn cysylltu â’ch ymatebydd argyfwng. Caiff y cwmpas ei brofi adeg gosod yr offer.

A allaf ddewis gwisgo’r pendant o amgylch fy ngwddf neu ar fy arddwrn?  

Gallwch, gallwch ddewis p’un sydd orau gennych adeg gosod yr offer. Fodd bynnag os oes gennych synhwyrydd syrthio, caiff y rhain eu gwisgo ar yr arddwrn fel arfer.

A yw’r pendant yn gallu dal dŵr?

Ydi, mae pob pendant yn dal dŵr, felly gellir eu gwisgo yn y bath a’r gawod.

Beth fyddai’r gost i ddau o bobl yn byw yn yr un cyfeiriad sydd angen pendant yr un?

Os ydych angen pendant ‘ychwanegol’ ar gyfer ail berson yn eich cartref, dim ond ffi gosod unigol o £50 fydd a bydd y ffi monitro wythnosol yn £6 yr wythnos yn lle £5 yr wythnos (£1 ychwanegol yr wythnos)

A wyf angen dwy uned Lifeline – un ar gyfer lan grisiau ac un ar gyfer lawr grisiau?

Cafodd Lifeline ei gynllunio i’r gweithredwr fedru eich clywed lle bynnag ydych yn eich cartref.

A ydw i angen llinell ffôn neu fand eang? 

Na, mae ein unedau Lifeline newydd yn gweithio drwy Sim felly maent yn debyg i ffôn symudol, felly nid oes angen llinell ffôn na band eang. 

A allaf atgyfeirio fy hun ar gyfer Technoleg Glyfar?

Na – i wneud cais am unrhyw un o’n gwasanaethau Technoleg Glyfar bydd angen i chi gael eich asesu gan Therapydd Galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol neu asesydd un o’n asiantaethau partner tebyg i Gofal a Thrwsio Sir Fynwy.

Gwefan Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen >

Sut mae trefnu asesiad gan therapydd galwedigaethol neu weithiwr cymdeithasol?

I drefnu asesiad bydd angen i chi gysylltu â’r Tîm Dyletswydd Gwaith Cymdeithasol sy’n delio gyda’r ardal lle rydych yn byw. Gallwch wneud hyn drwy ffonio ein prif switsfwrdd ar:

Ffôn: 01633 644644

A allaf atgyfeirio fy hun ar gyfer synhwyrydd gwely, synhwyrydd cadair neu offer synhwyrydd amgylcheddol?

Na – i wneud cais am yr offer hwn bydd angen i chi gael asesiad gan eich therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol neu asesiad un o’n asiantaethau partner tebyg i Gofal a Thrwsio Sir Fynwy.
Gwefan Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen >

Ydych chi’n cynnig synhwyrydd syrthio? 

Ydym, gallwn gynnig synhwyrydd syrthio os ydych mewn perygl o syrthio. Gellir hefyd bwyso’r synhwyrydd syrthio yn yr un modd â pendant safonol. Mae ffi gosod unigol o £50 ac mae’r ffi monitro wythnosol yn £6 yr wythnos.

Dewis cynnyrch >

Mae fy anghenion iechyd wedi newid, a fedraf atgyfeirio fy hun ar gyfer synhwyrydd gwely, synhwyrydd cadair neu synhwyrydd amgylcheddol? 

Na – i wneud cais am yr offer yma bydd angen i chi gael asesiad gan therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol neu asesiad gan un o’n asiantaethau partner tebyg i Gofal a Thrwsio Sir Fynwy.

Gwefan Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen >

Mae fy narparydd ffôn llinell daear wedi dweud y byddaf yn newid i wasanaeth digidol, a fydd fy llinell daear bresennol yn dal I weithio?

Dylech hysbysu eich darparydd ffôn eich bod yn gwsmer Lifeline, dylent naill ai ohirio’r newid neu roi addasydd i chi gysylltu eich Lifeline presennol. Os ydynt eisoes wedi newid neu’n bwriadu newid y gwasanaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda â’n Swyddog Cyswllt Cwsmeriaid ar 01633 644466 i drafod opsiwn uwchraddio uned llinell daear. Ar y pwynt hwnnw byddwn yn rhoi uned Lifeline seiliedig ar Sim i chi (mae hyn yn gweithio yn yr un modd â ffôn symudol), felly nid oes angen llinell ffôn neu fand eang.

Gwefan Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen >

A fyddaf yn cael fy nghlymu i gontract gyda AssistiveTech Sir Fynwy? 

Na, gallwch ganslo eich gwasanaeth Lifeline gyda ni ar unrhyw amser. Fodd bynnag, byddwn yn dal i godi tâl am y gwasanaeth nes caiff yr offer Lifeline ei ddychwelyd i Gyngor Sir Fynwy.   

Sut mae canslo fy ngwasanaeth Lifeline? 

I ganslo’r gwasanaeth naill ai ffoniwch y tîm AssistiveTech ar 01633 644466 neu anfon e-bost at assistivetech@monmouthshire.gov.uk. Yn lle gallech ddychwelyd yr offer i’ch Hyb Cymunedol Sir Fynwy >

< Nôl i dudalen gartref Technoleg Gynorthwyol