Skip to Main Content
gofalwyr maeth a swyddogion Maethu Cymru Sir Fynwy

Dathlodd Maethu Cymru Sir Fynwy gyfraniad gofalwyr maeth ar ddydd Gwener, 30ain Awst, gyda Phicnic Haf ym Mharc Mardy, Y Fenni.

Mae gofalwyr maeth yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc lleol yn aros yn eu cymuned, yn agos at y bobl a’r lleoedd sy’n bwysig iddynt.

Roedd y Picnic Haf yn gyfle i swyddogion Maethu Cymru Sir Fynwy ddiolch iddynt am yr holl gefnogaeth y mae gofalwyr maeth yn ei darparu ac i ofalwyr maeth o bob rhan o’r sir a’r gororau i rwydweithio a rhannu eu profiadau.

Fel rhan o ymrwymiad Maethu Cymru Sir Fynwy i gefnogi gofalwyr maeth, mae darparu cyfle i rwydweithio ag eraill yn egwyddor allweddol. Drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, gall gofalwyr maeth gyfarfod a rhannu profiadau y gall eraill ddysgu oddi wrthynt.

Ynghyd â chyfle i gysylltu â gofalwyr maeth eraill, mwynhaodd y teuluoedd brynhawn o gerddoriaeth a gweithgareddau a phicnic bwffe ym Mharc Mardy.

Mae tîm maethu dielw Cyngor Sir Fynwy yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r cartref iawn i blentyn neu berson ifanc gyda’r nod o’u cadw’n agos at amgylchedd cyfarwydd. Mae’r tîm yn awyddus i glywed gan bobl o ystod eang o gefndiroedd sy’n gallu cynnig cartref i blant a phobl ifanc o bob oed ac anghenion. Anogir pobl sy’n gallu gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, grwpiau o frodyr a chwiorydd neu blant ag anghenion ychwanegol i gysylltu.

Mae llawer o ffyrdd o faethu, gan gynnwys gofal therapiwtig, seibiannau byr, gofal brys a darparu gofal i blant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa. Dim ond ychydig o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth yw’r rhain.

Os ydych chi’n credu y gallwch chi wneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â’r tîm heddiw: fosterwales.monmouthshire.gov.uk/contact-us

Bydd swyddogion Maethu Cymru Sir Fynwy wrth eich ochr bob cam o’r ffordd, gan ddarparu rhwydwaith cymorth sy’n cynnwys:

  • eich gweithiwr cymdeithasol ymroddedig eich hun
  • mynediad i amrywiaeth eang o hyfforddiant yn ogystal â system cyfeillio a mentora
  • grwpiau cymorth rheolaidd
  • mynediad i’n gwasanaeth seicoleg a therapi
  • cymorth y tu allan i oriau
  • ffioedd a lwfansau i dalu eich costau
  • mynediad i ystod o fuddion eraill megis cymhorthdal ​​Treth y Cyngor o 30%, nofio am ddim ym mhyllau nofio CSF a llawer mwy!

Dywedodd y Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Rydym bob amser angen mwy a mwy o ofalwyr maeth i ymuno â’r tîm anhygoel o ofalwyr maeth sydd gennym eisoes yn ein Sir. Gallech gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun trwy fod yn ofalwr maeth Os gallwch chi ddarparu cartref yn y tymor byr neu’r tymor hir, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n swyddogion heddiw.”

Dysgwch fwy am Faethu Cymru Sir Fynwy yn: https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/