Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog trigolion i nodi Diwrnod Annibyniaeth yr Wcráin ar ddydd Sadwrn, 24ain Awst, drwy ‘Gwneud Sŵn ar gyfer Wcráin (Make Noise for Ukraine)’.

Mae’r ymgyrch ryngwladol yn gyfle i ddathlu dewrder a dygnwch Wcráin. Gall pobl wneud hyn drwy glapio, bloeddio, chwarae offeryn, canu cân, stompio eu traed neu ganu cloch.

Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Mae llawer o bobl Wcráin’ yn byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy, ar ôl cael eu croesawu gan drigolion o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan eu hurddas a’u parodrwydd i fod gyda ni yn y gymuned. wedi cyfoethogi ein bywydau. Mae’r diwrnod hwn yn gyfle i ddangos undod â chymdogion sydd wedi ffoi o’r rhyfel drwy ddangos eich cefnogaeth yn gyhoeddus.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’n hanfodol nad ydym yn dawel yn wyneb ymosodedd Rwsia. Mae pobl Sir Fynwy bob amser wedi rhoi croeso bendigedig i’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Byddai’n wych i weld trigolion yn ymuno â’r ymgyrch ryngwladol hon yn dangos eu cefnogaeth drwy wneud rhywfaint o sŵn a phostio fideos i’r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #MakeNoiseForUkraine.”

Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan NATO a Llywodraeth y DU. Gallwch lawrlwytho pecyn adnoddau a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU o: https://assets.publishing.service.gov.uk/media/66c48243b75776507ecdf463/Make-Noise-For_Ukraine_International_Campaign-Guide_v1.pdf