Skip to Main Content

Cyngor a chefnogaeth i landlordiaid yn Sir Fynwy

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwerthfawrogi rôl landlordiaid preifat wrth gyflenwi cartrefi safon uchel i breswylwyr yn Sir Fynwy. Rydym yma i gefnogi landlordiaid presennol a hefyd ddarpar landlordiaid i sicrhau safonau uchel mewn rheoli eiddo.

Mae’n ofyniad cyfreithiol ar landlordiaid i sicrhau fod eu heiddo yn cyrraedd safonau neilltuol ac mae ganddynt gyfrifoldeb tuag at eu deiliaid contract (tenantiaid)*. Os nad yw landlordiaid yn cydymffurfio, gallent wynebu dirwyon neu hyd yn oed erlyniad.

Ers 2015 mae’n ofyniad cyffredinol bod landlordiaid sy’n rhoi tenantiaethau domestig, neu gontractau meddiannaeth, yng Nghymru, yn cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.

Rhentu Doeth Cymru

Mae’n rhaid i unrhyw landlord sy’n rhoi contract meddiannaeth domestig ar gyfer eiddo yng Nghymru fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru er mwyn cydymffurfio gyda’r gyfraith.

Mae angen talu i gofrestru neu adnewyddu cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae cofrestru yn ddilys am 5 mlynedd a rhaid ei adnewyddu os yw’r eiddo yn parhau i gael ei osod.

Mae’n rhaid i unrhyw landlord sy’n cyhoeddi eu contractau meddiannaeth eu hunain ac yn rheoli eiddo eu hunain ac nid drwy asiant hefyd fod â thrwydded.

I gael mwy o wybodaeth, yn cynnwys unrhyw eithriadau rhag cofrestru a thrwyddedu, ewch i Cofrestru Landlord – Rhentu Doeth Cymru (llyw.cymru).

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r Ddeddf wedi achosi newid sylweddol mewn rhentu yng Nghymru, yn cynnwys geirfa allweddol.

Yn hytrach na rhoi Tenantiaethau, o fis Rhagfyr 2022 mae landlordiaid yn rhoi Contractau Meddiannaeth (“Contractau”). Daeth Tenantiaid yn Ddeiliaid Contract Meddiannaeth neu “Ddeiliaid Contract”. Ar gyfer contractau newydd a gyhoeddwyd ar ôl mis Rhagfyr 2022 mae’n rhaid i’r deiliaid contract dderbyn datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth o fewn 14 diwrnod. Gall Deiliaid Contract fedru hawlio iawndal os nad ydynt yn derbyn y datganiad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod.

Er nad yw’r rhestr hon o newidiadau yn cynnwys popeth, rhai o’r newidiadau allweddol yw:

  • Ffitrwydd i fod yn gartref: Mae’n rhaid i’r eiddo fod yn ffit i fod yn gartref ac yn ddiogel i bobl fyw ynddo. Os caiff hysbysiad meddiant ei roi fel canlyniad i gais am waith trwsio, gall y llys wrthod rhoi gorchymyn meddiant.
  • Cyfnod Rhybudd: Mae cyfnod rhybudd dim bai wedi cynyddu i 6 mis ac ni fedrir ei gyhoeddi o fewn 6 mis cyntaf contract.
  • Cyd-ddeiliaid Contract: Gall cyd-ddeiliaid contract adael neu ymuno â’r contract heb sbarduno contract newydd.
  • Hawliau Olyniaeth: Gall olynydd blaenoriaeth ac olynydd wrth gefn olynu gyda’r contract meddiannaeth.

I gael mwy o wybodaeth ar newidiadau i rentu ar gyfer landlordiaid a deiliaid contract, yn ogystal â mynediad i ganllawiau pellach ar weithredu’r newidiadau ewch i Cyfraith tai yn newid: Rhentu Cartrefi Cymru: LLYW.CYMRU

Ffitrwydd i fod yn gartref

I gydymffurfio gyda Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 mae’n rhaid i bob eiddo fod yn ffit i bobl fyw ynddynt.

Mae’n ofynnol i landlordiaid sicrhau fod eu heiddo yn ffit i fod yn gartref drwy eu cadw mewn cyflwr da bob amser, ac i wneud unrhyw waith trwsio sydd ei angen mewn amserlen resymol.

Mae’r gofynion ar y landlord yn ymestyn i:

  • strwythur a thu allan yr annedd (yn cynnwys draeniau, gwteri a phibelli allanol), a
  • gosodiadau gwasanaeth yn yr annedd, tebyg i’r rhai ar gyfer:
  • cyflenwi dŵr, nwy neu drydan,
  • glanweithdra, a
  • gwresogi gofod neu dwymo dŵr.

Mae 29 “mater” a gaiff eu hystyried wrth benderfynu os yw eiddo yn ffit i fod yn gartref fel y’u nodir yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd i Fod yn Gartref) (Cymru) 2022.

Mae hefyd 3 mesur y mae’n rhaid i landlord eu cymryd i eiddo gael ei farnu yn ffit i fod yn gartref:

  • sicrhau fod larymau mwg yn bresennol a’u bod yn gweithio’n iawn
  • sicrhau bod synwyryddion carbon monocsid yn bresennol a’u bod yn gweithio’n iawn
  • sicrhau archwilio a phrofi’r gwaith gosod trydan

Mae canllawiau ar ffitrwydd i fod yn gartref ar gael yn Ffitrwydd i fod yn gartref: canllawiau ar gyfer landlordiaid [HTML] | LLYW.CYMRU.

Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy

Nod Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy yw gwneud gosod a rheoli eich eiddo yn broses syml a hawdd.

Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy – Monmouthshire

Cefnogaeth i ddeiliaid contract – Help i dalu rhent

If a contract holder is struggling to pay rent, or has missed rent payments, there are services available that could help them.

Os yw deiliad contract yn ei chael yn anodd talu rhent, neu wedi colli taliadau rhent, mae gwasanaethau ar gael a fedrai eu helpu.

Taliad Disgresiwn at Gostau Tai

Mae Taliadau Disgresiwn ar Gostau Tai yn daliadau tymor byr i helpu deiliaid contract i dalu eu rhent. Gellir eu defnyddio i ychwanegu at renti neu i’w rhentu os yw amgylchiadau yn newid yn gyflym.

I gael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai, bydd angen i ddeiliad contract naill ai fod eisoes yn derbyn Budd-dal Tai yr hen gynllun neu elfen cyfraniad tai drwy’r Credyd Cynhwysol a bydd angen iddynt brofi eu bod angen help ychwanegol.

Mae Cyngor Torfaen yn gweinyddu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai ar ran Cyngor Sir Fynwy. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar Daliadau Disgresiwn ar Gostau Tai a sut i wneud cais yma.

Cronfa Disgresiwn Atal Digartrefedd

Mae gan Gyngor Sir Fynwy gronfa fach ar hyn o bryd i gynorthwyo’r rhai sydd dan fygythiad digartrefedd i naill ai helpu i gadw eu llety presennol neu i’w cynorthwyo i gael mynediad i lety arall.

Gall aelwydydd wneud cais am help o’r gronfa hon hyd yn oed os nad ydynt yn derbyn budd-daliadau gwladol. Bydd angen i aelwydydd ddangos tystiolaeth i ni sy’n dangos risg o ddigartrefedd.

Gall aelwydydd gysylltu gyda’r Tîm Opsiynau Tai yma i ganfod os ydynt yn gymwys am daliad disgresiwn ac i wneud cais. Gallai landlordiaid wneud cais hefyd.


Cyflogaeth a sgiliau

Mae’r gwasanaeth Economi, Cyflogaeth a Sgiliau yn cynnig cefnogaeth i’r rhai sydd wrthi’n edrych am gyflogaeth, y rhai sy’n paratoi i ymuno â’r gweithlu a’r rhai sy’n hunan-gyflogedig. I gael mwy o wybodaeth ewch i Hafan – Cyflogaeth a Sgiliau Sir Fynwy (mccemployskills.co.uk) .

Cymorth (Porth Cymorth Tai)

Mae’r Porth Cymorth Tai yn cyllido amrywiaeth o wasanaethau cymorth i helpu pobl gael mynediad i lety neu i aros yn eu llety drwy gyllid Grant Cymorth Tai.

Gall aelwydydd yn Sir Fynwy gael mynediad am ddim i wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai. Bydd y cymorth a gynigir yn dibynnu ar anghenion yr aelwyd, a allai er enghraifft fod yn iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol, trais domestig, rheoli arian a chymorth cyffredinol fel y bo’r angen.

I gael mynediad i gymorth gall aelwydydd eu cyfeirio eu hunain neu ofyn i asiantaeth arall gyflwyno atgyfeiriad ar eu rhan. Medrir gweld y broses atgyfeirio yma.

Cyngor ar fudd-daliadau ac uchafu incwm

Mae gan y cyngor gynghorwyr budd-daliadau penodol a all roi cyngor a chynorthwyo aelwydydd i wneud cais am y budd-daliadau y gallent fod â hawl iddynt ac i uchafu incwm.

Mae’r Gwasanaeth Budd-daliadau yn rhan o’r Porth Cymorth Tai a gall aelwydydd gyfeirio eu hunain at y gwasanaeth, gallwch ganfod sut i wneud hynny yma.

Cefnogaeth i Landlordiaid

Mae Cyngor Sir Fynwy eisiau cefnogi landlordiaid i gyflawni eu rhwymedigaethau. I wneud hyn gall fod angen i landlordiaid weithredu i ddiogelu eu lles eu hunain neu eisio mwy o gyngor ac arweiniad.

Ni all y cyngor gynghori ar droi deiliaid contract o’u heiddo na chyngor ar achosion penodol, ond gallant siarad gyda landlordiaid am bryderon gwirioneddol.

Mae Tai Pawb yn rhedeg Rhwydwaith Hyrwyddwyr fel rhan o BOOST Gwent. Mae’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr yn grŵp o landlordiaid a deiliaid contract sy’n cydweithio ar faterion allweddol sy’n wynebu’r sector rhent preifat. Gall landlordiaid gael gwybodaeth am gefnogaeth ar gyfer eu lles eu hunain yn ogystal â hyfforddiant drwy’r Rhwydwaith – mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Mae gan Rhenti Doeth Cymru gasgliad o ganllawiau cyfleus ar gyfer landlordiaid am bolisïau a gofynion deddfwriaethol yn ogystal ag opsiynau hyfforddiant. Mae hyn ar gael ar eu gwefan.

Proses Digartrefedd

Os ydych yn landlord sydd wedi rhoi rhybudd i ddeiliad contract, mae’n bwysig eu bod yn cysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai cyn gynted ag sy’n bosibl gan y cânt eu hystyried fel bod mewn risg o fod yn ddigartref.

E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Ffôn 01633 644 644

Unwaith y mae aelwyd yn cysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai bydd un o’n Swyddogion Opsiynau Tai yn eu hasesu ac yn cynnig cymorth. Os yw’r aelwyd yn wynebu bod yn ddigartref a heb fod yn derbyn cymorth eisoes rhoddir Swyddog Atal penodol iddynt fydd yn eu helpu i geisio canfod llety arall.

Gofynnir i chi nodi y bydd Swyddogion Opsiynau Tai ac Atal yn cynghori aelwydydd i o leiaf aros mewn annedd nes y rhoddir gorchymyn meddiant.

Os yw’r aelwyd yn ddigartref, neu’n dod yn ddigartref, bydd y Swyddog Opsiynau Tai yn cyfeirio’r aelwyd i lety dros dro os credir fod yr aelwyd honno yn cyflawni’r meini prawf ar gyfer Angen Blaenoriaeth. (Mae’r meini prawf angen Blaenoriaeth ar gael yma). Mae prinder difrifol o unedau llety dros dro yn Sir Fynwy ac mae lleoliadau yn dibynnu ar beth sydd ar gael ar y dydd, gallai hyn fod yn llety Gwely a Brecwast a gall fod unrhyw le yn y sir. Weithiau gall un o’r Tîm Opsiynau Tai gysylltu â landlord i holi os gall aelwyd aros yn yr eiddo nes gellir dod o hyd i rywbeth mwy addas.

Dylai aelwydydd sy’n wynebu digartrefedd gael eu hannog i gofrestru gyda Homesearch. Homesearch yw’r cynllun gosod seiliedig ar ddewis a gaiff ei redeg gan Gyngor Sir Fynwy gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy. Gall aelwydydd chwilo a chynnig am eiddo rhent cymdeithasol ar y llwyfan hwn. Mae’r aros am dai rhent cymdeithasol wedi tyfu gyda’r cynnydd mewn galw, ac mae aelwydydd digartref gyda bandio blaenoriaeth yn awr yn aros 13.7 mis ar gyfartaledd (fel ym mis Mai 2024).