Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal dwy ffair swyddi a chyflogaeth fis nesaf.

Cynhelir y ffeiriau ar 12 a 19 Medi, gyda’r cyntaf yn Neuadd Farchnad y Fenni a’r ail yn Neuadd Gôr Cil-y-coed.

Bydd y ffeiriau yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol i gwrdd â chyflogwyr lleol o sectorau gan gynnwys:

  • Gofal
  • Adeiladu
  • Lletygarwch
  • Logisteg
  • Manwerthu

Bydd cyfleoedd cymorth a hyfforddiant cyflogaeth ar gael hefyd.

Bydd digwyddiad y Fenni yn cael ei gynnal yn Neuadd y Farchnad rhwng 10am ac 1pm, ddydd Iau, 12 Medi.

Bydd digwyddiad Cil-y-coed yn cael ei gynnal yn Neuadd y Côr rhwng 10am ac 1pm, ddydd Iau, 19 Medi.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd:  “Mae ffeiriau swyddi yn ffordd wych o gwrdd â chyflogwyr posibl ac i gael eich enw allan yn hysbys.

“Beth am ddod draw i’r ffair swyddi yng Nghil-y-coed neu’r Fenni a gweld beth sydd ar gael.

“Pwy a ŵyr, efallai byddwch yn cwrdd â’ch cyflogwr newydd.” I gael rhagor o wybodaeth danfonwch e-bost at employmentskills@monmouthshire.gov.uk neu ewch i wefan https://www.cyflogsgiliaumynwy.co.uk/

Tags: , , ,