Bydd cyfyngiad pwysau newydd yn cael ei osod ar y Bont Gadwyni yn Kemeys Commander. Mae’r Bont bron yn 120 oed ac rydym wedi bod yn monitro ei chyflwr ers blynyddoedd lawer i gynnal y cyfyngiad pwysau o 44T.
Pam ydych chi wedi cyflwyno terfyn pwysau newydd?
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal y cyfyngiad o 44T ers dechrau monitro. Cyflawnwyd hyn trwy gyflwyno goleuadau traffig i leihau’r bont i un lôn lwythog a thrwy gryfhau nifer o’r rhodenni crog sy’n cysylltu dec y bont i’r prif fwa.
Mae’r rhodenni yn un o’r prif heriau o ran y bont, yn enwedig lle maent yn cysylltu â dec y bont. Mae’r rhodenni’n cael eu monitro’n rheolaidd, ac mae lefelau ymyrraeth yn cael eu hamlinellu a rhaid i ni weithredu arnynt pan fyddwn yn cyrraedd y lefelau yma.
Roedd un o’r rhodenni hyn wedi dirywio ers yr arolygiad blaenorol, sydd wedi arwain at yr angen i osod cyfyngiad pwysau o 7.5T.
Pryd fydd y cyfyngiad pwysau yn cael ei godi?
Rydym wedi a byddwn yn parhau i gynnal archwiliadau a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i ailasesu cyfanrwydd adeileddol y bont i weld a ellir gwella’r cyfyngiad pwysau hwn yn ddiogel. Mae’r ailasesiad yma ar y gweill ond mae’r Bont Gadwyni yn strwythur cymhleth i’w ddadansoddi a bydd yn cymryd amser i’w gwblhau a disgwylir y canlyniadau erbyn mis Hydref eleni.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn ogystal â’r ailasesiad, byddwn hefyd yn edrych ar yr opsiynau adnewyddu i asesu’r hyn sydd ei angen i ddod â’r strwythur hwn yn ôl i statws anghyfyngedig. Ni fyddwn yn gwybod beth yw cwmpas y gwaith hwn nes bod yr asesiad wedi’i gwblhau, ond mae’n debygol y bydd y rhodenni crog a’r trawstiau’n cael eu hadnewyddu’n llawn.
Beth am fynediad i gerbydau trymach?
Mae llwybrau amgen wedi’u nodi ac yn cynnwys mynediad trwy Frynbuga a thrwy Betws-y-newydd. Gellir codi’r cyfyngiad uchder ar bont reilffordd segur B4598 Stryd Porthycarne. Trwy gyfeirio cerbydau i lawr canol y bont, gyda leinin gwyn addas ac arwyddion yn eu harwain, gellir gwella hyn o 11’6” ar hyn o bryd i 13’9”. Bydd y gwrychoedd yn cael eu torri’n ôl cymaint â phosibl a’r canopi coed yn cael clirio. Byddwn hefyd yn lledu’r ffordd lle mae ymylon wedi gordyfu ar y ffordd gerbydau. Bydd mannau pasio presennol yn cael eu gwella cymaint ag sy’n ymarferol.
Oni allwch chi roi pont newydd yno?
Mae’r Bont Gadwyni yn adeiledd eiconig ac yn Rhestredig. Bydd angen i unrhyw waith ar y Bont gael ei wneud yn unol â’i statws Rhestredig.