Bu Grid Gwyrdd Gwent a Chyngor Tref y Fenni yn cydweithio ar brosiect i wella ardal o Barc Bailey yn y Fenni gyda darn newydd o gelf yn cael ei osod.
Gan fanteisio ar arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin (cyllid ffyniant a rennir) yn Sir Fynwy, comisiynwyd yr artist lleol Danielle Farrington i greu murlun ar y ‘wal fawr’ yn y parc.
Nod y prosiect yw tynnu sylw at fioamrywiaeth gyfoethog ein hamgylchedd naturiol yn yr ardal.
Mae’r murlun diweddaraf yn darlunio planhigion a pheillwyr fel llygad y dydd, clun rhosyn, glöyn byw blaen oren a phryfed hofran; i gyd yn tyfu’n naturiol ac yn byw yn ardal gyfagos y parc.
Mae Parc Bailey bellach yn cynnwys murluniau bywiog ar waliau a oedd gynt yn foel o gwmpas yr ardal.
Mae’r gornel hardd hon o’r parc, sydd weithiau’n cael ei hanwybyddu, yn fan perffaith ar gyfer cael picnic a mwynhau manteision eistedd ym myd natur. Y gobaith yw y bydd pobl leol yn crwydro’r ardal hon ac yn mwynhau’r gwaith celf.
Mae’r prosiect gwella tir cyhoeddus hwn wedi’i ariannu gan Ariannu Ffyniant a Rennir trwy Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent. Ariannwyd y gwaith o atgyweirio’r wal gan y Gronfa Micro-ddaearyddiaeth. Bu Grid Gwyrdd Gwent yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Fenni i roi’r prosiect ar waith.
Mae’n rhan o brosiect rhanbarthol ehangach sy’n ceisio mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur drwy wella ansawdd mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol a gwledig ledled Gwent a gwella gwytnwch yr amgylchedd ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.
I ddarganfod mwy am gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Fynwy, ewch iwww.monmouthshire.gov.uk/uk-shared-prosperity-fund-spf/ I ddarganfod mwy am bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, ewch i www.monlife.co.uk/outdoor/green-infrastructure/gwent-green-grid-partnership/
Tags: abergavenny, community, Monmouthshire