Skip to Main Content

Treialwyd Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf

Arweiniodd prosiect peilot i feithrin talent creadigol mewn tri awdurdod lleol at 15 o swyddi newydd a hyd at £230,000 mewn refeniw ychwanegol.

Bu Canolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Casnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf (RhCT) i ddatblygu Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau. a Chwaraeon (DCMS).

Yn ystod y prosiect (Gorffennaf 2023 – Mawrth 2024), daethpwyd â mwy na 1,000 o artistiaid a pherchnogion busnesau creadigol ynghyd, cynhaliwyd 41 o ddigwyddiadau cyhoeddus a gweithgareddau ymgysylltu a chofnodwyd lleoliad 691 o fusnesau ac ymarferwyr creadigol i ddeall cyrhaeddiad y sector yn y cymunedau hyn.

Yn dilyn dadansoddiad o effaith y prosiect dros y flwyddyn ddiwethaf, dangoswyd ei fod wedi cynhyrchu:

  • Refeniw ychwanegol o £200,000-£230,000;
  • Hyd at 15 o swyddi;
  • Cynnydd yng nghyfradd goroesi busnesau;
  • Newidiadau cadarnhaol yn amodau gwaith gweithwyr llawrydd;
  • Cynnydd yn yr ymwneud â phobl greadigol â nodweddion gwarchodedig.

Mae’r prosiect wedi ehangu ar lwyddiant Caerdydd Creadigol (a sefydlwyd yn 2015) a Clwstwr (2018 – 2022) i greu model tebyg ar gyfer ardaloedd y tu allan i brifddinas Cymru.

Roedd yr artist amlddisgyblaethol o RhCT, Bridie Doyle-Roberts, wedi datblygu ei syniad, sef ‘rêf gelf’ (art rave) yn sgil arian y prosiect.

Dyma a ddywedodd hi:

“Yn ei hanfod, mae rêf gelf yn brofiad sy’n trochi’r synhwyrau, gan gyfuno cysyniadau galeri, perfformiad theatr a noson allan â’i gilydd. Bydd aelodau’r gynulleidfa’n crwydro o gwmpas tra y bydd llawer o bobl yn perfformio celf, weithiau’n cymryd rhan ac ar adegau eraill ond yn arsylwi.”

“Mae bod yn greadigol neu’n artist weithiau’n beth eithaf unig ac ailadroddus. Ro’n i eisiau annog artistiaid sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain neu mewn un ffordd benodol i ystyried a oes ffyrdd newydd iddyn nhw weithio, llwyfannau newydd ar gyfer eu gwaith neu brosiectau newydd ar y cyd iddyn nhw roi cynnig arnyn nhw. 

Ychwanegodd Bridie:

“Da o beth yw gweld cynifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn digwydd yn lleol. Ydy, mae’r sir yn un eang ac mae problemau o ran trafnidiaeth a mynediad, ond byddai’n beth da iawn pe baen ni’n gallu cynnal pethau mwy diddorol a phethau gwahanol a fydd yn denu pobl o Gaerdydd yn ogystal â hel pobl leol at ei gilydd.
Mae Ned Heywood, ceramegydd o Gas-gwent, wedi bod yn rhan o fyd celfyddydol Sir Fynwy ers mwy na 40 mlynedd. Mae’n gweithio yn ei oriel a’i weithdy, sef tafarn o’r 1700au wedi’i haddasu at y diben, gyda’i bartner gwaith Julia Land, lle maen nhw’n gwneud placiau glas yn bennaf. Rhoddodd sgwrs am ei oes o waith yn rhan o gyfres Diodydd Creadigol grŵp Dylunio Celfyddydau Gweledol Sir Fynwy (VAMM).

Dyma’r hyn a ddywedodd:

“Cafwyd ymateb da i fy sgwrs, ‘O botiau bach i blaciau gydag ambell i dafarn ar y ffordd’, a daeth llawer o bobl i wrando. Yno roedd nid llai na tua 70 o ffotograffau a oedd yn olrhain fy ngwaith dros y blynyddoedd, o fod yn athro i fod yn gyflenwr monopoli mewn marchnad arbenigol. 
Roedd Ned wrth ei fodd ymhlith llawer o bobl greadigol eraill o’r ardal: “Roedd yn atgyfnerthu’r teimlad bod angen cymorth ar y celfyddydau gweledol. Mae pawb yn gwybod bod arian yn eithaf tynn ar hyn o bryd, a dweud y lleiaf, felly does dim cyllid ar gael ar gyfer cymorth o’r fath. Mae’n anodd iawn. Mae gofyn i bawb ddod at ei gilydd i weithio ar y cyd.”

Dyma a ddywedodd awdur yr adroddiad a Phennaeth Caerdydd Creadigol Jess Mahoney:

Yng nghanolfan Caerdydd Creadigol, rydyn ni wrth ein boddau â gweithlu creadigol ffyniannus Caerdydd ac yn ymfalchïo yn yr hyn y mae’r sector wedi’i gyflawni: dod â chymunedau at ei gilydd i rannu profiadau, creu swyddi a thwf, gwireddu prosiectau arloesi beiddgar newydd, yn ogystal â’i henw da cynyddol, sef bod yn ganolfan y cyfryngau a’r sgrin a gydnabyddir yn fyd-eang. Ond rydyn ni hefyd yn cydnabod nad mewn dinasoedd yn unig y bydd creadigrwydd.

Wrth i glwstwr creadigol Caerdydd dyfu o ran maint ac enwogrwydd, daw’n gynyddol bwysig ein bod yn harneisio’r cyfoeth o dalent eginol ledled y rhanbarth ehangach i fanteisio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, cynnull cymunedau newydd a chreu lleoedd creadigol llewyrchus a chynrychioliadol newydd. Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn gam cyntaf tuag at gyflawni hyn.”

Dyma a ddywedodd Heidi Mehta, artist llawrydd a chreadigol o Gasnewydd:

“Yn bendant, rwy’n meddwl bod angen yr hyn y mae Canolfan Clwstwr Casnewydd yn ei gynnig. Er bod gen i rwydwaith eithaf da yn sector y celfyddydau cymunedol, dyw hynny ddim mor wir am fy ymarfer o ran y stiwdio personol. Bydda i weithiau’n teimlo’n ynysig yn y stiwdio ar fy mhen fy hun, felly peth gwych yw’r cyfle i ddod o hyd i rai artistiaid eraill sy’n gweithio yn y maes, ac mae hyn mor bwysig i’n lles.’

Mae’r adroddiad dadansoddi yn argymell rhagor o fuddsoddi i ehangu ar y llwyddiannau hyn, yn ogystal â rhagor o ddata mwy cynhwysfawr i ddeall ble mae busnesau creadigol yn dewis lleoli eu hunain a pham.

Dyma a ychwanegodd Jess Mahoney:

“Yn dilyn canlyniadau’r peilot, mae’n amlwg bod y fframwaith yn cynnig y cyfle i wella’r ffordd rydyn ni’n cefnogi ac yn galluogi’r gweithlu diwylliannol a chreadigol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ei hyd. Mawr obeithiwn y gallwn gysylltu â chyllidwyr, cefnogwyr a rhanddeiliaid i ddod o hyd i ffordd ar y cyd i barhau â’r gwaith hwn, ehangu ar lwyddiant clwstwr creadigol Caerdydd a mynd ymhellach gyda’n gilydd.”

Darllenwch yr adroddiad llawn: Un, Dau, Tri: Camau tuag at ddatblygu fframwaith i gefnogi clystyrau creadigol rhanbarthol.

Nodiadau i’r golygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Katie Bodinger

Cyfathrebu a Marchnata

Prifysgol Caerdydd

Ebost: BodingerK1@caerdydd.ac.uk

Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae’n aelod o Grŵp Russell, sy’n cynnwys prifysgolion y Deyrnas Unedig sy’n rhoi’r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil. Canfu Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 fod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.  Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgîl Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae’n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae ei sefydliadau Prifysgol yn dod ag academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd. Rhagor o wybodaeth: www.caerdydd.ac.uk