Skip to Main Content

Mae B Community yn gwerthfawrogi dulliau amrywiol o wirfoddoli. Rydym yn

gwerthfawrogi cyfraniadau unigryw pob gwirfoddolwr ac yn eu hanrhydeddu. Mae BeCommunity yn grymuso gwirfoddolwyr Sir Fynwy gydag adnoddau a chyfleoedd hyfforddiant cynhwysfawr.

Mae dull Be Community yn amlochrog. Darparwn ar gyfer anghenion a diddordebau amrywiol gwirfoddolwyr, gan gynnig cyrsiau hyfforddiant sy’n cynnwys agweddau amrywiol o wirfoddoli a rheoli grŵp cymunedol Ein nod yw sicrhau fod gan unigolion y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth ystyrlon.

Yn ogystal â hyfforddiant traddodiadol, rydym yn cynnig :

  • Modiwlau dysgu ar-lein hygyrch, sy’n galluogi gwirfoddolwyr i ymwneud â chynnwys gwerthfawr ar eu cyflymder eu hunain a phan mae’n gyfleus iddyn nhw. Caiff yr adnoddau hyn eu llunio i wella eu dealltwriaeth o faterion cymunedol, meithrin empathi a hyrwyddo dulliau effeithiol i ddatrys problemau.
  • Pecynnau pwrpasol,  sylweddolwn weithiau fod mudiadau cymunedol angen dull mwy pwrpasol i helpu codi’r prosiect i’r lefel nesaf neu oresgyn heriau. Yn yr amgylchiadau hyn gallwn gynnig mentoriaeth gan sefydliadau trydydd sector profiadol gydag arbenigedd penodol yn eich maes.
  • Mae rhwydweithio yn elfen allweddol yn ein system cymorth. Rydym yn hwyluso cysylltiadau rhwng gwirfoddolwyr, gan eu galluogi i gyfnewid syniadau, cydweithio ar brosiectau a dysgu o brofiadau ei gilydd. Gall gwirfoddolwyr ehangu eu cylchoedd cymdeithasol, ffurfio partneriaethau a chael gwybodaeth werthfawr sy’n cyfoethogi eu taith gwirfoddoli.

Mae Be Community yn ymroddedig i ddarparu adnoddau a chyfleoedd am ddim i bob gwirfoddolwr. Mae ein hymroddiad yn sicrhau nad yw cyfyngiadau ariannol byth yn llesteirio gallu neb i gyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned. Credwn y dylai bawb gael  cyfle i wirfoddoli a phrofi’r ymdeimlad dwfn o gyflawni y mae’n ei roi.

Mae Be Community yn croesawu pob gwirfoddolwr, p’un ai’n brofiadol neu’n newydd. Gyda’n gilydd gadewch i ni adeiladu cymuned gryfach a mwy trugarog i bawb.

Cwrs Rheoli Ymosodedd a Diogelwch Personol

Dyddiadau’r cwrs i gael eu cadarnhau!

Bydd y cwrs hwn yn eich grymuso chi fel gwirfoddolwr i adnabod, lliniaru a gostwng sefyllfaoedd gwrthdaro a chynnal eich diogelwch personol (yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999) ac mae’n cydymffurfio’n llawn gyda Phasbort Hyfforddiant a Chynllun Hyfforddiant Trais ac Ymosodedd Cymru-gyfan, Modiwlau A a B.

Bydd y cwrs yn galluogi timau gwirfoddol i adnabod gwahanol agweddau o wrthdaro y gallant eu profi.

Deall a gwybod am y gwahanol ddulliau o ddatrys gwrthdaro o’r fath.
Eich helpu i weithio i leihau effeithiau ymddygiad treisgar ac ymosodol.
Rhoi ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth y Llywodraeth a gofynion cyfreithiol Iechyd a Diogelwch yn ymwneud â thrais ac ymddygiad ymosodol o fewn yr amgylchedd gwaith.
Codi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch personol tebyg i amgylchedd gweithio diogel a phobl sy’n gweithio ar ben eu hunain.

Gwneud i Grantiau Weitho gyda Justin Horton

Dyddiadau’r cwrs i gael eu cadarnhau!

Cafodd ein cwrs “Gwneud i Grantiau Weithio” ei lunio i rymuso sefydliadau ar bob lefel, o grwpiau cymunedol sy’n cymryd eu camau cyllido cyntaf i sefydliadau profiadol sy’n paratoi ar gyfer ceisiadau am gyllid sylweddol.
– Sicrhau gwybodaeth i lunio ceisiadau llwyddiannus am gyllid.
 – Addas ar gyfer pawb, o gynigwyr tro cyntaf i ymgeiswyr profiadol.
Nodwedd Arbennig: Cwrdd â Michael Dupree o’r Loteri Fawr! Dyma’ch cyfle i drafod eich prosiect penodol, ymchwilio gwahanol opsiynau cyllid a chynyddu eich cyfleoedd o lwyddiant.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i godi eich gêm cyllid. Ymunwch â ni yn “Gwneud i Grantiau Weithio” a gosod eich sefydliad ar lwybr llwyddiant!

Dyfarniad Highfields Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo  (RQF)

Dyddiadau’r cwrs i gael eu cadarnhau!

Wedi ei deilwra ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n trin bwyd a’r rhai sy’n ymwneud â pharatoi bwyd, mae’r cymhwyster hwn a gyflwynir gan Shared Regulatory Services yn rhoi gwybodaeth hanfodol. Cewch wybod am alergenau bwyd, anoddefgarwch, cyfathrebu effeithlon a lleihau risg traws-halogi.

Foodie Foundations – Hyfforddiant Iechyd yr Amgylchedd

Dyddiadau’r cwrs i gael eu cadarnhau!

Adeiladau Prosiect Bwyd Cymunedol Diogel a Llwyddiannus gyda Chynllun Hyfforddi Be Community

Mae’r Foodie Foundations yn gynllun hyfforddiant a gynigir mewn partneriaeth gydag Iechyd yr Amgylchedd a Be Community. Mae’n cynnig cymorth a hyfforddiant personol ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n ymwneud â pharatoi neu drin bwyd. Nod y cynllun yw sicrhau llwyddiant a diogelwch drwy deilwra cyngor i anghenion unigryw pob prosiect. Rhoddir cymorth ôl-ymweliad hefyd. Fodd bynnag, nid yw’n cymryd lle arolygiadau arferol.


Cymorth Cyntaf Argyfwng yn y Gwaith

Dyddiadau’r cwrs i gael eu cadarnhau!

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dod yn berson cymorth cyntaf argyfwng. Mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddelio gyda sefyllfaoedd cymorth cyntaf mewn amgylcheddau gweithle risg isel ar gyfer rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.

Ar ôl mynychu’r cwrs, bydd y person cymorth cyntaf yn deall ac yn medru rheoli cleifion heb fod yn ymatebol, mewn sioc, yn tagu neu sydd â man anaf.


Dyfarniad HABC Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo

Dyddiadau’r cwrs i gael eu cadarnhau!

Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch (neu’r rhai sydd ar fin dechrau gwaith yn y diwydiant). Mae’r pynciau a gynhwysir yn cynnwys: peryglon a mesurau rheoli, rheoli diogelwch bwyd a thymheredd, rheoli gwenwyno bwyd, glanweithdra personol, glanhau a diheintio, pla bwyd a rôl person trin bwyd wrth gadw bwyd yn ddiogel.

Mae gan Dyfarniad HABC Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (QCF) achrediad a chaiff ei gydnabod yn rhyngwladol a chafodd ei ddatblygu i ddiogelu cwsmeriaid, enw da brand ac elw.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi ennill y cymhwyster yma?
Fel arfer caiff y cymhwyster hwn ei ennill drwy gymryd cwrs un-dydd yn yr ystafell ddosbarth. Argymhellir adnewyddu’r cymhwyster o leiaf bob tair blynedd.

Pwy sydd angen y cymhwyster yma? Unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn lleoliad arlwyo, gweithgynhyrchu neu fanwerthu lle caiff bwyd ei baratoi, ei goginio a’i drin. Gall amgylcheddau nodweddiadol gynnwys tafarndai, gwestai, bwytai, archfarchnadoedd a manwerthu, ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion, carchardai.

Pam fod yr hyfforddiant yma yn bwysig? Mae gan bawb sy’n gweithio gyda bwyd gyfrifoldeb arbennig i ddiogelu iechyd defnyddwyr a sicrhau fod y bwyd y maent yn ei weini neu ei werthu yn hollol ddiogel ei fwyta.

Sut y caiff y cymhwyster ei asesu?
Caiff ei asesu gan arholiad aml-ddewis lle mae’n rhaid I’r ymgeisydd ateb o leiaf 13 allan o 20 cwestiwn yn gywir. Ni fydd yr arholiad yn cymryd mwy na 45 munud. Mae papurau arholiad ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Thai, Dari, Arabeg a Phwyleg ond mae’n rhaid gwneud cais ymlaen llaw am bapurau mewn iaith heblaw Saesneg.

Beth nesaf? Gall unigolion sy’n ennill y cymhwyster wedyn symud ymlaen i unrhyw un o gymwysterau HABC Lefel 3 Diogelwch Bwyd sy’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno gweithio fel goruchwyliwr.

Deilliannau Dysgu

Dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd diogelwch bwyd a gwybodaeth o’r systemau, technegau a gweithdrefnau cysylltiedig. Deall sut i reoli risgiau diogelwch bwyd (glanweithdra personol, storio bwyd, coginio a thrin bwyd). Hyder ac arbenigedd i gyflenwi bwyd ansawdd da yn ddiogel i gwsmeriaid.

Rydym yn awr yn derbyn archebion ar gyfer ein cwrs.


Cyrsiau’r gorffennol yw’r rhain, fodd bynnag cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb ynddynt!

  • Highfield Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (RQF)
  • Chat GBT (ap deallusrwydd artiffisial) – gweithdy hyfforddi ar-lein
  • Gwneud i Grantiau Weithio gyda Justin Horton
  • Diogelwch Bwyd Lefel 2
  • Stori Brandio a Brand
  • Asesu Risg
  • Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  • Cymorth Cyntaf Hunanladdiad
  • Cymorth Cyntaf
  • Ymwybyddiaeth o’r Menopos
  • Rheoli Stres
  • Datgloi Atgofion: Atgofion Seiliedig ar Wrthrychau a Hyfforddiant Caffe Cof

 

📧 BECommunity@monmouthsire.gov.uk

< Community Development Team

Cyllidir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.