Skip to Main Content

Mae TogetherWORKS yn ganolfan gymunedol yng Cil-y-coed, sydd â’r nod o gael ei yrru gan y gymuned. Mae’n cynnig llu o weithgareddau a grwpiau, yn seiliedig ar angen lleol, i leihau unigedd ac unigrwydd, ac annog pobl i ddod at ei gilydd i rannu sgiliau a gwybodaeth. Mae yna hefyd brydau o ansawdd uchel o’r Rhewgell Gornel, ar sail talu’r hyn y gallwch ei fforddio. 

Mae’n cynnig cymorthfeydd galw heibio i sefydliadau partner er mwyn galluogi pobl i gael mynediad at y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt yn lleol, mewn lleoliad cymunedol hamddenol. 

Beth sydd ymlaen!

Gofod Gwneuthurwyr, Gardd Gymunedol, Rhewgell Gornel a Chwpwrdd Cornel, Banc Bwyd Anifeiliaid Anwes, Bagiau Urddas, Gemau a Bwyd, Digwyddiadau Crefft Plant, Clwb Brecwast Gwyliau, Man Cwiar, Clwb Lego’r Gwyliau, yn ogystal â mwy o glybiau a grwpiau. Gweler tudalen Facebook TogetherWORKS am y wybodaeth gyfredol!

?Wedi’i leoli yn Woodstock Way, Cil-y-coed, NP26 5DB.

?Dyddiau Llun, Mercher a Gwener 9.00am – 4.00pm,

?Dydd Mawrth 9.00am – 2.30pm

? Isla Arendell isla.arendell@gavo.org.uk

? Fred Weston fredweston@monmouthshire.gov.uk

?07376023527

? Ewch i dudalen Facebook: https://www.facebook.com/togetherworks.caldicot am fwy o fanylion a digwyddiadau cyfredol.

Together Works Volunteers, Staff and Friends.

Gwirfoddolwyr, staff a chyfeillion TogetherWORKS

Newyddion Cysylltiedig

Mae TogetherWORKS yn bartneriaeth rhwng Tîm Datblygu CymunedolCMGG (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent) ac mae’n Hyb nid-er-elw, dan arweiniad y gymuned.

Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.