![Dewch i ymuno ar tim](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/themes/monmouthshire/assets/images/jobs/come-join-the-team-cy.png)
Asesydd Gofal Cymdeithasol
Dyma gyfle cyffrous i asesydd gofal cymdeithasol i ymuno gyda Thîm Integredig Gogledd Sir Fynwy. Rydym yn gweithio yn y Fenni a’r cylch ac yn ehangach yn ardal Sir Fynwy er mwyn cefnogi pobl sydd â nam corfforol i fyw eu bywydau. Rydym yn gweithio mewn ysbytai lleol er mwyn cefnogi pobl sydd angen help gyda’u cynlluniau i adael yr ysbyty. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd yn dymuno gweithio llawn amser neu ran amser. Bydd y swyddi hyn yn ffurfio rhan o’r gwasanaeth integredig a byddant yn gweithio ar draws y gymuned ac mewn ysbytai. Gall ymgeiswyr llwyddiannus weithio’n annibynnol yn ogystal ag fel rhan o dîm.
Cyfeirnod Swydd: SAS 045
Gradd: BAND F SCP 19 – 23 (£29,777 - £32,076 p.a.)
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Canolfan Adnoddau Parc Mardy, y Fenni NP7 6HU
Dyddiad Cau: 19/07/2024 12:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Oes (Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)